Achos Neil Foden: Galw am ystyried ymchwiliad cyhoeddus

Beca Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Beca Brown yn dweud ei bod yn cadw "meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliadau pellach"

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd wedi dweud ei bod yn poeni am "gyfyngiadau" Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol fydd yn gweld pa wersi sydd i’w dysgu o achos Neil Foden.

Mae Beca Brown yn aelod cabinet dros addysg ers 2022 ac yn dweud ei bod yn "llwyr groesawu'r adolygiad", ond ei bod hi’n cadw "meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliadau pellach".

Dyma’r tro cyntaf ers i Foden gael ei arestio i rywun siarad yn gyhoeddus ar ran Cyngor Gwynedd.

Cafodd ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar ddydd Llun am gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am waith yr adolygiad ac mae datganiad ganddyn nhw’n egluro nad ydy’r adolygiad yn rhan o "brosesau troseddol/ymchwilio" ac mai’r bwriad ydy "nodi pa wersi y gellir eu dysgu".

Fel rhan o’r adolygiad, bydd cadeirydd annibynnol yn trafod gyda phanel o uwch reolwyr o wahanol asiantaethau sy’n ymwneud â’r achos.

Bydd disgwyl i’r panel "gasglu gwybodaeth" er mwyn creu "llinell amser o ddigwyddiadau".

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C mae Beca Brown, cynghorydd Llanrug, yn dweud ei bod yn poeni am gyfyngiadau'r adolygiad presennol.

"Does 'na ddim modd gorfodi tystion, gorfodi tystiolaeth a fasa pobl ddim yn cyfrannu ar lw," meddai.

"Ond mi faswn i'n disgwyl, wrth gwrs, y bydd pawb sy’n cael eu galw - pawb sy’n cael eu gwahodd i gyfrannu i’r adolygiad - yn gneud hynny yn llawn ac yn llwyr gydweithredol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd dan glo

Mae Beca Brown yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad ac "un cyhoeddus o bosib".

Dywedodd: "Petai Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Plant neu unrhywun arall yn teimlo bod angen ymchwiliadau pellach - ehangach na’r un sydd ganddo ni rŵan - mi faswn i wrth gwrs yn croesawu hynny’n llwyr ac yn dymuno hynny i fod yn onest."

Mewn datganiad dywedodd cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, Jenny Williams, fod yr adolygiad yn "gyfle pwysig i adolygwyr annibynnol gasglu a dadansoddi’r holl wybodaeth".

"Bydd yr adroddiad hwn yn amlygu’r pethau a ddysgwyd o’r achos, meysydd o arferion da ac argymhellion i wella ymarfer diogelu i’r dyfodol," meddai.

"Mae’n gam hanfodol i ddiogelu plant diamddiffyn yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pryderon am Neil Foden eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson, yn 2019

Daeth i’r amlwg yn ystod achos Foden fod nifer o bobl wedi codi pryderon ynglyn â’i agosatrwydd â Phlentyn E yn 2019.

Cafodd y rhain eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson mewn ebost.

Yn yr achos yn erbyn Foden, dywedodd Mr Jackson wrth y llys ei fod wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles ac wedi rhannu manylion yr achos, ond cafodd wybod nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol am nad oedd unrhyw gyhuddiad penodol wedi cael ei wneud.

Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden gan ei atgoffa “o'r angen i gadw pellter addas” gyda phobl ifanc.

Esboniodd fod Foden wedi dweud wrtho fod y pryderon yn "or-ddramatig" ac fe fynnodd nad oedd unrhywbeth amhriodol wedi digwydd.

'Pryder mawr'

Dywedodd Mr Jackson wrth y llys nad oedd ganddo gofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau hyn oni bai am yr e-bost gwreiddiol.

Fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowands, fod hynny yn “bryder mawr”.

"Dwi’n cymryd ei eiriau fo [y barnwr] efo’r difrifoldeb mwya'," meddai Beca Brown.

"Dwi’n derbyn fod y chwyddwydr yn mynd i fod bob man mae o angen bod."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Foden ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol

Gyda Neil Foden bellach dan glo, mae nifer wedi bod yn gofyn sut y gallai un o benaethiaid amlycaf Cymru fod wedi gallu cyflawni troseddau o’r fath.

"Does 'na ddim byd pwysicach na mynd at wraidd beth sydd wedi digwydd fan hyn," meddai Beca Brown.

"Mae’r merched a phob un rhiant yng Ngwynedd yn haeddu gwybod fod pob carreg yn cael ei throi.

"Dwi’n llwyr ymwybodol o’r teimlada' sydd allan 'na yng Ngwynedd - yn rieni, yn bobl ifanc, pawb - achos fel mae’r dywediad yn mynd, 'mae’n cymryd pentra i fagu plentyn'.

"Mae pawb yn teimlo y cyfrifoldeb a’r gofal 'na am blant a does 'na ddim cyfrifoldeb mwy na diogelwch a lles ein pobl ifanc ni.

"Dwi’n deall y teimlada' yna o ddicter a siom dwys achos dwi’n rhannu nhw fy hun."

'Diolch am eu dewrder'

Wrth gyfeirio at y dioddefwyr, mae Beca Brown yn awyddus i bawb sydd ynghlwm â’r adolygiad i "gadw’r merched ym mlaenau ein meddylia'".

Mae hi’n canmol "eu penderfyniad" a’u "gwytnwch" wrth roi eu tystiolaeth i’r llys.

"Faswn i’n licio diolch iddyn nhw am eu dewrder," meddai, gan ddweud fod Cyngor Gwynedd yn "cyd-sefyll efo nhw".

"Ar unrhyw bwynt yn eu bywydau nhw, os fydd hyn yn bwrw cysgod drostyn nhw, bo' ni wastad yn sefyll efo nhw ac yn edmygu eu dewrder nhw yn ddwys ofnadwy."

Mae disgwyl i’r adolygiad gymryd dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.