Gwleidyddiaeth Lyn Ebenezer: Clatcho, Stalin a chael llond bol

Dylan ac Lyn Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Am y tro cyntaf, mae tad a'r mab - Lyn a Dylan Ebenezer - wedi eistedd lawr i drafod hanes gwleidyddol eu teulu

  • Cyhoeddwyd

“Chi’n cofio pleidleisio mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf?” Dyna’r cwestiwn ddechreuodd y sgwrs gyda Dad.

O’n i ddim yn disgwyl clywed mai 1964 oedd yr ateb, a fy Nhad erbyn hynny bron yn 25 oed.

“Yr adeg hynny oedd rhaid bod yn 21 i gael pleidlais. Ma’ nhw'n sôn nawr am ddod â fe lawr i 16.

"Oedd e ddim yn beth mawr i fi. Er, ces i fy nghodi mewn cartref cwbl, cwbl wleidyddol.”

Dwi’n gwybod tipyn am hanes y teulu, ond erioed wedi holi am eu safbwyntiau gwleidyddol, felly dyma gydio mewn meicroffon, eistedd yn ôl a gwrando.

“Roedd fy Nhad yn ddwl am y blaid Lafur. O dan safonau heddi ma' hi’n siŵr mai comiwnydd oedd e," meddai Dad.

"O'dd e wedi dysgu fi i gasáu Roderick Bowen, yr Aelod Seneddol lleol! Fe oedd y blaid Ryddfrydol yn Sir Aberteifi.

"A sioc fawr i fi wedyn mewn blynyddoedd oedd cwrdd ag e pan o’n i'n gweithio gyda’r Cymro a chanfod fod e’n foi oreit."

Tri arwr

Tri arwr oedd gan fy nhad. Niclas y Glais, Stalin a’r bocsiwr Joe Louis - a hynny gan ei fod yn ddyn du ac wedi curo Max Schmeling, Almaenwr gwyn ar drothwy’r ail ryfel byd.

A’r unig lyfr brynodd e i fi erioed oedd ‘How to Box’ gan Joe Louis.

Oedd rhaid i fi holi y cwestiwn amlwg, pam Stalin?!

“Rhaid cofio bod hyn i gyd yng nghyd-destun yr ail ryfel byd a’r ffaith bod pobl yn gweld bod Stalin wedi stopio Hitler.

"Oedd hi mor syml â hynny ar y pryd.”

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Pontrhydfendigaid yw cartre’r teulu yng nghanol cefn gwlad Ceredigion, a gwleidyddiaeth leol yn hytrach na chenedlaethol oedd yn tanio pobl.

“Yr etholiadau lleol oedd y pethau mawr fan hyn. Y frwydr fawr fyddai rhwng y Baptists a’r Methodists neu rywun o Ffair Rhos a rhywun o Bont. Oedd pethau yn mynd yn dwym.

"Pan fyddai’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar iard yr ysgol bydde 'na ddwsinau o bobl lan ‘na. Sawl un wedi bod i’r Red neu’r Black neu Cross Inn (y tafarndai lleol).

"Wy' hyd yn oed yn cofio clatcho yn mynd 'mlaen.”

'Y dyn oedd yn bwysig'

Fel bron pob un o etholaethau Cymru mae Ceredigion wedi newid. Ceredigion Preseli yw enw’r etholaeth newydd yn yr etholiad yma.

Ond beth sy’n sicrhau cefnogaeth yn yr ardal? Plaid neu berson?

“Rwy’n cofio cyfnod Geraint Howells, Aelod Seneddol Rhyddfrydol arall, yn parhau traddodiad Roderick Bowen," meddai Dad.

"Yn sicr y dyn oedd yn bwysig yn achos Geraint. Oedd e’n gymaint o help i bobl, pawb yn ei 'nabod. Oedd e’n foi caredig, hynaws.

"O'dd yr un peth i raddau yn wir am Elystan Morgan (y cyn-AS Llafur). Cwmnïwr dihafal. O'n i wrth fy modd yn siarad gyda fe.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lyn Ebenezer wedi bod yn newyddiadurwr, cyflwynydd teledu ac awdur

Un o bynciau mawr cynnar yr ymgyrch etholiadol yma oedd syniad y Ceidwadwyr o ailgyflwyno Gwasanaeth Cenedlaethol.

Mae yna dueddiad i feddwl fod pawb o genhedlaeth fy Nhad wedi gorfod gwneud hynny. Ond eto, roedd yna sioc yn fy nisgwyl.

“Daeth y cyfan i ben fisoedd cyn bod rhaid i fi fynd," meddai.

"Ac o’n i yn diolch i Dduw, y peth diwethaf o’n i eisiau ei wneud oedd mynd i’r fyddin.

"Yr unig fyddin fues i’n aelod ohoni oedd ‘Byddin Rhyddid Cymru’, a ches i ddim promotion fynna chwaith.

"Y cyfnod gwleidyddol mwyaf i fi oedd pan o’n i'n blentyn. Erbyn heddi wy’n credu bo fi 'di cael llond bol ar y peth i ddweud y gwir.”

Pynciau cysylltiedig