Beirniadu Sports Direct am gamsillafu'r gair 'Cymru'

Llun o'r het dan sylw
Disgrifiad o’r llun,

Er nad ydy'r het ar gael i'w phrynu ar wefan Sports Direct erbyn hyn, mae dal ar werth mewn rhai siopau

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Sports Direct wedi cael eu beirniadu am sillafu'r gair 'Cymru' fel 'Cyrmu' ar hetiau.

Aeth pobl ar y cyfryngau cymdeithasol i alw ar y cwmni i gywiro eu camgymeriad.

Mae'r hetiau, sy'n costio £6, bellach wedi eu tynnu oddi ar wefan Sports Direct ond maen nhw'n dal ar werth mewn rhai siopau.

Yn ôl Nation Cymru, dolen allanol, roedd nifer o gefnogwyr yn gwisgo'r het yn ystod cymal cyntaf gemau ail-gyfle Euro 2025 merched Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Sports Direct am ymateb.

Pynciau cysylltiedig