Caerdydd: Camsillafu enw Rhodri Morgan ar arwyddion stryd
- Cyhoeddwyd

Mae'r arwyddion anghywir yn rhan o ddatblygiad y Mill yn ardal Treganna
Bydd arwyddion stryd a oedd wedi camsillafu enw cyn-Brif Weinidog Cymru mewn stad o dai yng Nghaerdydd yn cael eu newid, medd y datblygwr a'r cyngor.
Roedd Cyngor Caerdydd wedi dweud nad eu cyfrifoldeb nhw oedd dau arwydd ffordd sy'n camsillafu enw Rhodri Morgan.
Mae'r arwyddion yn ardal Treganna - rhan o ddatblygiad y Mill - yn darllen "Rodri Morgan Way".
Cafodd lluniau o'r arwyddion eu rhoi ar Twitter, ond yn ôl y cyngor, gan ei bod yn ffordd breifat, cyfrifoldeb y datblygwyr Lovell Homes yw'r arwyddion.
"Mae'r ffordd hon yn un preifat ac mae'r datblygwr yn gyfrifol am gynhyrchu a chynnal yr arwyddion," meddai Cyngor Caerdydd ar Twitter yn wreiddiol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Camgymeriad dynol'
Ond mewn datganiad ar y cyd yn ddiweddarach ddydd Mercher, dywedodd Lovell Homes a Chyngor Caerdydd: "Rydym wedi cael gwybod am gamsillafu Ffordd Rhodri Morgan yn natblygiad The Mill yng Nghaerdydd, a oedd o ganlyniad i gamgymeriad dynol.
"Mae arwyddion stryd newydd eisoes wedi'u harchebu a byddan nhw'n cael eu gosod cyn gynted â phosib."

Bu farw Rhodri Morgan yn 2017 yn 77 oed
Roedd Rhodri Morgan, fu farw yn 2017, yn brif weinidog rhwng 2000 a 2009.
Mae ei wraig, Julie Morgan, yn Aelod o Senedd Cymru ar gyfer Gogledd Caerdydd.
Dywedodd Ms Morgan wrth BBC Cymru: "Roedd hi'n hyfryd clywed fod stryd wedi cael ei henwi er cof am fy niweddar ŵr a phrif weinidog, Rhodri Morgan.
"Yn arbennig felly gan fod y stryd yng nghalon y gymuned roedd yn arfer ei chynrychioli yn San Steffan a'r Senedd.
"Mae'n biti fod yr arwydd wedi cael ei gamsillafu, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gywiro."

Dywedodd y Cynghroydd Stephen Cunnah ei bod hi'n "amlwg sut mae sillafu Rhodri"
Dywedodd Stephen Cunnah, cynghorydd ward Treganna: "Dwi tipyn bach yn anhapus. Roedd yn gamgymeriad od.
"I fi mae'n amlwg sut i sillafu Rhodri yn Gymraeg."
Ychwanegodd: "Fe ddylai'r stori fod am Rhodri a'i gyfraniad o i'r stad yma o dai."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018