2024 'yn flwyddyn dymhestlog' i wleidyddiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn flwyddyn anarferol o dymhestlog yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Dim ond pedwar prif weinidog oedd yna yn ystod 25 mlynedd cyntaf datganoli. Yn 2024, roedd 'na dri.
Er i Mark Drakeford gyhoeddi ei ymddiswyddiad yn Rhagfyr 2023, fe barhaodd wrth y llyw tan i Vaughan Gething ei olynu ym mis Mawrth 2024.
Roedd yn garreg filltir yn hanes Cymru gan mai Vaughan Gething oedd arweinydd du cyntaf Cymru, a'r cyntaf i arwain unrhyw wlad Ewropeaidd.
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
Ond dim ond 118 diwrnod yn ddiweddarach, roedd wedi ymddiswyddo.
Yn ystod ei amser byr wrth y llyw, daeth Vaughan Gething dan bwysau cynyddol oherwydd rhodd dadleuol o £200,000 i'w ymgyrch gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, ac yn ddiweddarach am ddiswyddo un o'i weinidogion.
Fe arweiniodd hyn at gwymp y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd.
Brwydrodd ymlaen am rai wythnosau ond fe ildiodd yr awennau ym mis Gorffennaf, ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo.
Wrth ymddiswyddo dywedodd nad oedd "erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol".
"Nid wyf erioed wedi camddefnyddio na cham-drin fy nghyfrifoldebau gweinidogol," meddai.
Troi tudalen newydd
Ond yn sgil hynny daeth moment hanesyddol arall - coroni'r ddynes gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Wedi cyfnod anodd i'r blaid, dechreuodd Eluned Morgan drwy addo uno'r blaid a throi tudalen newydd.
Dywedodd ei bod yn "bwysig ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru".
"Dydyn ni ddim wedi gwneud yn dda yn ystod yr wythnosau diwethaf," meddai.
Roedd hi'n benderfynol o wneud pethau'n wahanol, ac fe dreuliodd yr haf yn gwrando ar flaenoriaethau pobl Cymru, gan benderfynu yn y diwedd - heb fawr o syndod efallai - mai ei phrif nod fyddai gostwng rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd.
Yn sgil hyn, roedd hi'n glir y byddai yna lai o bwyslais ar rai o benderfyniadau mwy dadleuol ei rhagflaenwyr, fel y polisi 20mya a chwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Dau brif weinidog Llafur
Wrth gwrs, roedd yna brif weinidog newydd yn San Steffan hefyd eleni, gan olygu bod Llafur yn llywodraethu ar ddau ben yr M4 am y tro cyntaf ers 14 mlynedd.
Ar ôl i Rishi Sunak alw etholiad cyffredinol yng nghanol glaw mis Mai, fe newidiodd y darlun etholiadol yng Nghymru yn llwyr.
Llwyddiant ysgubol i Lafur a chwalfa i'r Ceidwadwyr, wnaeth golli pob un o'u seddi yng Nghymru.
Penderfynodd cyn-ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, ddychwelyd i'r Senedd ym Mae Caerdydd, gan weithio i'r blaid Geidwadol.
Ar yr wyneb, roedd yna ddigon o resymau i Lafur ddathlu, ond eto roedd eu pleidlais wedi gostwng yng Nghymru, sy'n golygu bod yna dipyn i'r blaid gnoi cil arno cyn yr etholiad nesaf i'r Senedd yn 2026.
Ond mae'r canlyniad wedi gweddnewid y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth, ac wedi arwain at fwy o arian na'r disgwyl yn dod i Gymru wedi cyllideb gyntaf y Canghellor, Rachel Reeves.
Ond dyw pethau ddim wedi bod yn fêl i gyd chwaith.
Mae Eluned Morgan wedi treulio mwy o amser nag y dymunai yn amddiffyn rhai o benderfyniadau amhoblogaidd y llywodraeth yn San Steffan.
Dyw hi dal heb weld ceiniog o'r arian mae hi'n galw amdano yn sgil datblygiad rheilffordd HS2, er ei bod yn mynnu ei bod yn gofyn mor gyson fel bod Syr Keir Starmer wedi cael "llond bol" o gael ei holi am yr arian.
Mewn blwyddyn o newid, daeth cyfnod Andrew RT Davies fel arweinydd y ceidwadwyr yn y Senedd i ben ym mis Rhagfyr wedi misoedd o anhapusrwydd am gyfeiriad y blaid.
Er iddo ennill pleidlais o hyder o drwch blewyn, fe benderfynodd bod ei sefyllfa yn anghynaladwy, a Darren Millar fydd yn arwain y blaid i fewn i'r flwyddyn newydd.
Ar y cyfan, roedd hi'n flwyddyn dda i Blaid Cymru yn ennill pedair sedd yn San Steffan - eu canlyniad gorau mewn etholiad cyffredinol.
Fe ddaethon nhw'n uwch na Llafur mewn un arolwg barn ar ddiwedd y flwyddyn.
Ond yn gynharach yn y flwyddyn, bu'n rhaid i'r blaid ddiarddel Rhys ab Owen fel aelod Plaid Cymru yn y Senedd, ar ôl i'r Comisiynydd safonau ganfod ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ar noson allan.
Daeth galwad am newid i arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd.
Galwodd yr arweinydd Syr Ed Davey, ar Jane Dodds i "fyfyrio" dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
Ond mae hi dal yn ei swydd fel arweinydd y blaid yng Nghymru ac mae'n ddigon posib y bydd ganddi rôl allweddol yn 2025, gan bod Llafur angen un bleidlais arall er mwyn pasio eu cyllideb yn y flwyddyn newydd.
Ond wrth i 2024 ddirwyn i ben, mae meddyliau rhan fwyaf o wleidyddion Cymru eisoes ar 2026, ac etholiad nesaf y Senedd.
Gyda newid i'r etholaethau a'r system bleidleisio, mae na gyfle euraidd i rai, a heriau mawr i eraill.
Bydd y brwydro yn dechrau yn fuan yn 2025.