Ymateb 'gwych' gan ddysgwyr i apêl am wirfoddolwyr i'r brifwyl

Maes D
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maes D - yr ardal benodol i ddysgwyr yn yr Eisteddfod - wedi bod yn brysur yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ymateb i apêl am wirfoddolwyr yn yr Eisteddfod o blith dysgwyr lleol wedi bod yn "wych," medd Elwyn Hughes, Cadeirydd panel canolog dysgwyr y brifwyl.

"Roedd apêl wedi ei wneud ymysg dysgwyr yn y dosbarthiadau iaith lleol i helpu, gan fod peth pryder fod dysgwyr yn ofni cofrestru'n ganolog i wirfoddoli yn yr Eisteddfod," esbonia Mr Hughes.

"Fe 'naethon ni 'neud cais arnyn nhw i gofrestru yn benodol ar gyfer Maes D, ac roedd yr ymateb yn anhygoel.

"Fe gawson ni 150 o bobl trwy'r dosbarthiadau oedd eisiau bod yn rhan o'r peth.

"Gobeithio fod hynny wedi codi eu hyder nhw a [gwneud iddyn nhw] sylweddoli bod cyfle iddyn nhw nawr i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn yr ardal hon."

Roedd nifer o'r dysgwyr oedd ymhlith y gwirfoddolwyr a'r ymwelwyr yn y babell ym Maes D, sef y safle penodol i ddysgwyr ar y maes, yn croesawu ymweliad yr Eisteddfod ac yn dweud fod y digwyddiad yn help i roi hyder.

Mae Phil wedi bod yn dysgu am dair blynedd: "Rwy'n dysgu ar-lein gyda phrifysgol Aberystwyth. Mae cael yr Eisteddfod yn yr ardal hon yn help mawr.

"Rwy'n byw yma ac rwy'n gobeithio bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i fi i siarad â phobl yn Gymraeg."

'Pwysig iawn bod yma'

Roedd Bev wedi teithio i'r Eisteddfod o Gaerefrog: "Rwy'n dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.

"Mae bod yma yn bwysig iawn achos pan dwi adref does dim cyfle i siarad Cymraeg.

"Dwi yn dysgu Cymraeg achos mae fy ŵyr yn byw yn Rhydfelin ac yn mynd i'r ysgol Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd Bev i Bontypridd o Gaerefrog

Un sydd wedi bod yn brysur iawn yn helpu a gwirfoddoli trwy'r wythnos gyda'r dysgwyr yw Beca, ac mae ganddi neges glir i ddysgwyr lleol:

"Rwy'n meddwl y bydd mwy o bobl yn cario 'mlaen i ddysgu gyda momentwm, dyna fy neges i."

'Gwaddol yr Eisteddfod'

Dywed Donna Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ei bod hi wedi ei phlesio yn fawr â'r "bwrlwm ar y maes a phobl ag awydd dysgu Cymraeg".

"Ry'n ni yn gobeithio mai dyma fydd gwaddol yr Eisteddfod a mwy o bobl eisiau dysgu Cymraeg. Dyna ni yn ei obeithio."

Ond os bydd cynnydd yn nifer y bobl sy' am ddysgu Cymraeg, a fydd yr adnoddau ar gael i gwrdd â'r galw?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Donna Lewis yn gobeithio gweld mwy o bobl yn dysgu'r iaith wedi'r brifwyl

"Dyna her ein sector ni. Mae yna gynnydd aruthrol wedi bod," meddai Ms Lewis.

"Mae yna gynnydd o 33% wedi bod ers i'r ganolfan gael ei sefydlu. Ein her yw bod yn arloesol ac yn greadigol.

"'Dyn ni mynd i ymgeisio yn galed i ymdopi â'r twf ry'n ni'n ei weld ar hyn o bryd."