Prifysgol Met Caerdydd y diweddaraf i dorri swyddi

Mae'r brifysgol yn disgwyl y bydd rhwng 30 a 50 o staff yn gadael oherwydd diswyddo gorfodol
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn disgwyl diswyddo hyd at 50 o staff i geisio lleihau costau.
Dyma'r brifysgol ddiweddaraf i symud at ddiswyddiadau gorfodol yn sgil y straen ariannol ar y sector addysg uwch.
Fis Ionawr, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau i dorri 400 o swyddi ac mae prifysgolion Bangor a De Cymru hefyd yn ymgynghori ar ddiswyddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Met Caerdydd ei bod, fel sefydliadau eraill, yn gorfod gwneud "penderfyniadau anodd".
Cyfnod 'annifyr ac anodd'
Dywedodd y llefarydd bod y brifysgol, sydd â thua 1,800 o staff yn ôl y ffigurau diweddaraf, yn wynebu heriau ariannol gyda chostau'n fwy nag incwm.
"Er mwyn bod mewn sefyllfa dda ar gyfer dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy, mae angen i ni, fel pob prifysgol, wneud rhai penderfyniadau anodd," meddai.
Cadarnhaodd y brifysgol bod 60 o staff wedi gadael y brifysgol yn wirfoddol llynedd a bod ail broses o'r fath wedi cau yn ddiweddar.
"Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni wneud gostyngiadau pellach", meddai'r llefarydd, gan ychwanegu eu bod wedi dechrau ymgynghori gydag undebau llafur ar y cynigion ail-strwythuro.
"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn wirioneddol awyddus i gael adborth yr undebau a'n cydweithwyr cyn i unrhyw gynigion gael eu cadarnhau.
"Rydym yn annog staff i rannu eu barn a chael mynediad i'r ystod o gefnogaeth rydyn ni wedi'i roi ar gael yn ystod y cyfnod annifyr ac anodd hwn."
Dywedodd y brifysgol y byddai cynigion manwl yn cael eu rhannu gyda'r staff sydd wedi eu heffeithio wythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd12 Mawrth