'Hanfodol' cael cymorth iechyd meddwl i rieni yn y Gymraeg

Yn ôl Aled Vaughan Edwards, dydy iselder ymhlith tadau ddim yn cael ei drafod digon
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad
Mae tad i ddau o Fangor yn dweud ei bod hi'n hollbwysig bod rhieni'n cael cyfle i drafod eu hiechyd meddwl yn y Gymraeg.
Yn ôl Aled Vaughan Edwards, 39, dydy iselder ymhlith tadau yn arbennig ddim yn cael ei drafod digon.
Mae o'n un o'r cyfranwyr ar bodlediad newydd gan Gyngor Gwynedd, sy'n trafod yr heriau sy'n wynebu rhieni.
Nod podlediad 'Mam, Dad a Magu', dolen allanol, yn ôl y cyngor, ydy helpu i chwalu rhai o'r tabŵs sy'n bodoli o gwmpas yr her o fod yn rhiant.
Mae'r gyfres yn delio â nifer o wahanol agweddau, gan gynnwys iechyd meddwl.
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd18 Mai
Er yn llawn profiadau bythgofiadwy, mae bod yn rhiant yn gallu bod yn anodd - a gwaith ymchwil diweddar gan Samariaid Cymru, dolen allanol yn awgrymu bod un o bob pump o rieni a gafodd eu holi'n teimlo bod ganddyn nhw ddim cefnogaeth.
Er bod Aled yn gwerthfawrogi pob eiliad o fod yn dad i Sullivan, chwech oed, a Beatrice, tair, fe aeth drwy gyfnod tywyll ar ôl genedigaeth ei ferch, ac ystyried dod â'i fywyd i ben.
"O'n i'n be' 'sa chdi'n galw ar Instagram - the perfect dad - o'n i yna, o'n i'n codi ganol nos i newid nappies, pan o'dd y wraig yn bronfwydo o'n i'n trio bod hefo hi gymaint ag o'n i'n gallu.
"O'dd 'na ddim byd o'n i ddim yn 'neud, ond gwynab o'dd o.
"O'n i'n rhoi'r gwynab i fyny ac yn meddwl 'os dwi'n gwneud hyn, ella neith o newid y ffordd dwi'n teimlo am ei chael hi'.
"Dim bo' fi ddim yn caru hi, just o'n i'n gwybod bo' fi'n cael trafferth creu'r bond 'na.
"Dydy hynny yn ei hun ddim yn beth hawdd i siarad amdano fo."
'Meddwl mai fi oedd y broblem'
Ychwanegodd: "O'dd 'na amser pan nes i feddwl mai fi o'dd y broblem a bod angen i fi gael gwared â'r broblem.
"O'n i'n meddwl fasa'r wraig yn well off efo gŵr gwahanol a'r plant yn well off efo tad gwahanol.
"Ar yr amser, be' o'n i'n gwybod ym mer fy esgyrn i o'dd i gymryd y broblem 'na a chymryd bywyd fi fy hun.
"Digwydd bod, y bore yna 'naeth hogyn bach fi ddod ata fi a rhoi ei freichiau rownd gwddw fi a gwasgu fi am ddim rheswm heblaw bod o isho fi yn ei fywyd o.
"Dyna 'naeth ddod a fi lawr o fan'na, gwybod bo' fi'n gadael y teulu a 'swn i byth yn teimlo'r teimlad 'na eto a chael y cariad yna gan rywun.
"Mae bod yn rhiant a chael y teimlad yna, does 'na ddim ffordd o'i ddisgrifio fo."

Mae Aled yn trafod ei brofiad personol ar ail bennod y podlediad 'Mam, Dad a Magu'
Ers cael cefnogaeth a gwella, mae Aled wedi sefydlu menter o'r enw 'Sut Mae Dad?' i gefnogi tadau a theuluoedd eraill yn y gogledd.
"Ges i gannoedd o negeseuon gan ddynion yn d'eud 'mae'n ddewr gynnoch chdi i agor fyny, dwi'n teimlo fel 'na, ga' i ddod efo chdi?'" ychwanegodd.
"O'dd o'n amlwg yn sydyn iawn bod y dynion 'ma yn teimlo'r union 'run ffordd ag o'n i'n teimlo.
"So nes i sefydlu 'Sut Mae Dad?' Dwi'n ffocysu mwy ar postnatal depression mewn dynion achos dydy o ddim yn cael ei siarad am hanner digon."
'Dim byd i fod â chywilydd amdano'
Mae Aled yn cyfrannu at ail bennod y podlediad 'Mam, Dad a Magu' ac yn trafod ei brofiad personol.
Mae'n credu bod hi'n bwysig bod 'na adnoddau cymorth ar gael yn y Gymraeg.
"Dw'n meddwl bod o mor bwysig bod pobl yn gallu defnyddio iaith gynta' nhw i allu gwrando ar bethau fel 'ma a siarad yn agored am sut maen nhw'n teimlo yn eu hiaith gynta' nhw hefyd," meddai.
"Mae'n gallu digwydd i rywun a does dim byd i fod â chywilydd amdano.
"Just i ymestyn allan a d'eud 'ar y funud dwi ddim yn iawn ond gydag ychydig bach o gymorth, mi fydda i'.
"Dyna dwi'n trio 'neud, rhannu'r neges yna bod hi'n amser drwg rŵan ond mi ddaw pethau'n well."

Mae Dion Wyn a Mari Lewis Jones yn credu bod galw am bodlediad o'r fath
Mae Dion Wyn, sy'n cyfarwyddo a golygu'r podlediad, hefyd yn dweud bod galw am bodlediad o'r fath.
"Rhywun sy'n mynd trwy social media a sgrolio, 'swn i'n d'eud bod ryw 60% ohonyn nhw'n glipiau a phodlediadau - ond yn Saesneg rhan fwyaf," meddai.
"Felly mae 'na gap yna i bodlediadau Cymraeg go iawn i weithio a thyfu.
"Dwi'n meddwl efo'r topics 'ma mae o'n berffaith o fformat i allu trafod."
Ychwanegodd Mari Lewis Jones, o dîm Teulu Gwynedd: "Mae 'na lot o rieni'n diodda' efo iechyd meddwl, a'n diodda'n ddistaw a ddim yn d'eud.
"Mae hwn yn agor drws i rieni ddechrau sylweddoli bo' nhw ddim ar ben ei hun a bod modd cael y gefnogaeth sydd angen drwy siarad a chychwyn sgwrs efo rhywun."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill