Llyfrgell Gen: 'Torri swyddi yn peryglu casgliadau'
- Cyhoeddwyd
Mae casgliadau cenedlaethol mewn "peryg dirfawr" yn sgil cynlluniau i dorri nifer y staff sydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ôl cyn-brif weithredwr y sefydliad.
Daw sylwadau Pedr ap Llwyd, yn sgil gostyngiad o 10.5% yn yr arian sydd ar gael i'r sector celfyddydol fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru eleni.
"Mae'r llyfrgell a'r amgueddfa yn perthyn i bob un ohonom ni, yn ogystal â'n treftadaeth a'n hiaith - ac mae'r cyfan yn dioddef yn enbyd ar hyn o bryd," meddai Mr ap Llwyd.
Dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol fod 24 o aelodau staff yn ymadael yn gynnar o ganlyniad i'w cynllun ymadael yn wirfoddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithredu i "liniaru effaith llawn pwysau'r gyllideb" ar y celfyddydau, ond nad oes hyblygrwydd i allu atal gostyngiadau sylweddol.
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
Dydd Sul, dywedodd pennaeth Amgueddfa Cymru eu bod yn wynebu gorfod torri o leiaf 90 o swyddi yn dilyn toriad i'w cyllid.
Mae'r Prif Weinidog wedi amddiffyn y toriadau yma mewn cyfweliad ddydd Llun.
Nododd Jane Richardson hefyd y gallai un o'i adeiladau mwyaf adnabyddus Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, orfod cau gan fod ei gyflwr yn dirywio.
24 o staff yn gadael yn gynnar
Dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol fod 24 o aelodau staff yn ymadael yn gynnar o ganlyniad i'w cynllun ymadael yn wirfoddol.
"Mae’r Llyfrgell nawr yn gweithio ar Gynllun Strategol newydd, bydd hyn yn cael ei ddilyn gan raglen newid ac adnewyddu," meddai'r llefarydd.
"Nod y Llyfrgell yw y bydd hyn yn sicrhau cynaladwyedd ariannol ac yn galluogi'r sefydliad a'r gweithlu i wynebu'r dyfodol yn hyderus."
Yn ôl undeb PCS, sy'n cynrychioli nifer o weithwyr y Llyfrgell Genedlaethol, fe allai'r toriadau arwain at golli hyd at 50 o swyddi yno yn y misoedd sydd i ddod, a hyd at 20 arall ymhen blwyddyn.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Mr ap Llwyd bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i amddiffyn sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru.
"Dyletswydd a chyfrifoldeb llywodraeth gwlad ydi diogelu ei threftadaeth - ac yn benodol yng nghydestun Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol," meddai.
"Mae'r llywodraeth angen edrych eto ar y ffordd y maen nhw wedi dyrannu’r cyllid.
"Holl bwrpas y ddeddf yna ydi sicrhau bo' ni'n trosglwyddo Cymru well i'r cenedlaethau sy'n dod ar ein holau.
"Dydi'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yn ystod y misoedd diwethaf ddim yn mynd i ddiogelu bod ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith ni mewn cyflwr gwell nag y mae hi ar hyn o bryd."
'Pwyntio'r bys drwy'r adeg'
Ychwanegodd Mr ap Llwyd ei fod yn credu bod Llywodraeth Cymru yn rhy barod i roi'r bai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector.
"'Dw i ddim yn gwybod be ydi manylion y bloc grant sy'n dod o Loegr, ond thâl hi ddim i Lywodraeth Cymru - sydd wedi bod yn ein llywodraethu ni ers dros 20 mlynedd - i weld bai drwy'r adeg ar Lywodraeth y DU.
"Ma' Deddf Cymru yn rhoi'r hawl a'r awdurdod i Lywodraeth Cymru godi incwm, cynyddu trethi ac i fenthyg arian - felly thâl hi ddim i bwyntio bys drwy'r adeg - tra bod yr awdurdod a'r hawl gan Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ynglŷn â'u cyflwr ariannol."
Yn ôl Pedr ap Llwyd, mae heriau diweddar wedi dangos, os nad oes rhagor o gefnogaeth ariannol, yna bydd effaith glir ar y casgliadau.
"'Dw i wedi dweud wrth y Dirprwy Weinidog pan oedd hi yn ei swydd bod y casgliadau cenedlaethol mewn peryg dirfawr oherwydd y gostyngiad 'da ni'n ei weld yn nifer y staff sydd gan y llyfrgell.
"Mae'r amgueddfa eisoes wedi cyhoeddi y gallen nhw fod nhw mewn sefyllfa o orfod cau'r adeilad ei hun... 'Dw i ddim yn credu bod y Llyfrgell Genedlaethol mewn sefyllfa fel yna ar hyn o bryd.
"Ond, ry'n ni ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf - yn dilyn stormydd enbyd yn Aberystwyth ac ym mhobman arall - wedi gweld glaw yn llifo lawr furiau mewnol y llyfrgell, ac wedi gorfod galw staff i mewn yn oriau mân y bore i achub ein casgliadau cenedlaethol.
"Os nad oes cyllid cyfalaf gan y llyfrgell i gynnal yr adeilad - yna mae'r casgliadau cenedlaethol mewn peryg."
'Argyfwng yn y sector'
Dywedodd swyddog undeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Doug Jones fod "gwir argyfwng nawr yn y sector diwylliant yng Nghymru".
"Ma’r ddau brif sefydliad diwylliannol o dan fygythiad mawr.
"Hwn yw y toriad mwyaf ni wedi gweld i’r ddau sefydliad, ac mae’n anghredadwy bod hwn yn digwydd o dan Lywodraeth Lafur."
Ychwanegodd Mr ap Llwyd bod cyllideb y Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd, ac nid problem newydd yw hon.
"Ma' cyllideb y llyfrgell yn ystod yr 20-30 mlynedd ddiwethaf wedi gostwng yn flynyddol. Dim argyfwng sy' di cael ei luchio atom ni heddiw ydi hwn.
"Er nad ydw i wedi profi'r fath argyfwng, mae cyllideb y Llyfrgell Genedlaethol, fel yr amgueddfa, wedi gostwng yn sylweddol ar hyd y blynyddoedd.
"'Da ni angen arian i gynnal ein sefydliadau. Dyletswydd y llywodraeth yw cynnal ein diwylliant a'n treftadaeth - mae'n fraint i lywodraeth fedru gwneud hynny - ac mae'n bryd i'r llywodraeth gymryd y cyfrifoldeb yna o ddifrif."
'Penderfyniadau anodd dros ben'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan bwysig o'n cymdeithas a'n lles.
"Rydym wedi gweithredu i liniaru effaith llawn pwysau'r gyllideb arnynt, ond nid oes hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn £2m o gyllid cyfalaf drwy gymorth grant, sydd wedi'i gynnal yn ystod y flwyddyn ariannol hon er gwaethaf cyfnod economaidd hynod heriol.
"Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb bellach yn sylweddol is mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd27 Chwefror