Dylai arolygon barn 'ddeffro' Llafur Cymru, medd cyn-weinidog

Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl fod hwn yn deffro ni gyd, yma yng Nghymru ac ar lefel Brydeinig," meddai Mick Antoniw

  • Cyhoeddwyd

Dylai'r arolwg barn diweddar ar gyfer etholiad y Senedd "ddeffro" Llafur yng Nghymru ac yn San Steffan, yn ôl cyn-weinidog Llywodraeth Cymru.

Daw sylwadau Mick Antoniw ar ôl i bôl yn gynharach yn yr wythnos awgrymu bod cefnogaeth i Lafur cyn etholiad y Senedd flwyddyn nesa' ar ei lefel isa' erioed - 14%, ymhell y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.

Dywedodd ysgrifennydd iechyd Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles fod yr arolwg barn diweddara' yn "ein hatgoffa fod yr etholiad yn ddewis".

Fe wnaeth y sylwadau hynny cyn iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi penderfynu na fydd yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Mae aelod uchel ei barch o fewn y blaid wedi dweud bod Llafur yn wynebu "y drochfa fwya' yn ei hanes".

Mae Llafur wedi ennill pob un o'r chwe etholiad i Fae Caerdydd ers dechrau datganoli ym 1999, gan sicrhau'r nifer fwya' o seddi bob tro.

Mae'r blaid hefyd wedi ennill yng Nghymru ymhob etholiad cyffredinol seneddol ers 1922.

Er hynny, mae arolygon barn diweddar yn awgrymu fod Plaid Cymru a Reform UK mewn lle da i ddisodli Llafur fel y brif blaid fis Mai nesaf.

Mae lefel y gefnogaeth i Lafur yn amrywio o un arolwg barn i'r nesa', ond mi wnaeth arolwg YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yr wythnos hon awgrymu darlun digalon ar gyfer y blaid.

Mae'n rhoi cefnogaeth i Blaid Cymru ar 30%, Reform UK ar 29%, a Llafur ar 14%.

LlafurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur wedi ennill pob etholiad yng Nghymru ers 1922

"Dwi'n meddwl fod hwn yn deffro ni gyd, yma yng Nghymru ac ar lefel Brydeinig," meddai Mr Antoniw wrth raglen Politics Wales.

"Mae'n rhaid i ni gydnabod y pethau sy' rhaid i ni eu gwneud i fod yn Llafur go iawn.

"Be' ni angen, yn arbennig ar lefel Brydeinig dwi'n meddwl, yw gweledigaeth glir – gweledigaeth o obaith a gweledigaeth o newid."

Wrth gael ei holi a yw Keir Starmer a Llywodraeth y DU yn deall graddfa'r sialens sy'n wynebu Llafur yng Nghymru, dywedodd y cyn-gwnsler cyffredinol: "Dwi'n meddwl bo' nhw'n dechrau deall."

Ychwanegodd fod llywodraeth Lafur y DU yn gwneud "llawer o bethau da", ond eu bod nhw'n cael eu rhwystro gan rai o'r camgymeriadau gafodd eu gwneud ar ddechrau'r tymor".

Er hynny, dywedodd Mr Antoniw ei fod yn "hyderus" y gallai Llafur ennill yr etholiad.

'Edrych fel diwedd pennod'

Ond dyw aelod Llafur arall yn y Senedd, oedd yn siarad yn ddienw, ddim mor bositif.

"Mae'r llif wedi troi yn ein herbyn," meddai.

"Mae'n teimlo fel bod hi [y prif weinidog Eluned Morgan] yn nofio yn erbyn y llif ac mae'n gwneud ei gorau glas.

"Mae wedi blino ei hun ac mae'n anodd gwylio. Mae'n edrych fel diwedd pennod."

Dywedodd yr un AS bod yr awyrgylch o fewn y grŵp Llafur yn "ddu", gydag aelodau yn dal i ddod i delerau gyda marwolaeth Hefin David fis diwethaf.

Ychwanegodd eu bod yn dal i'w chael hi'n anodd rhoi'r tensiynau a ddaeth i'r amlwg o dan arweinyddiaeth Vaughan Gething y llynedd y tu ôl iddyn nhw.

"Mae'r straen yno," meddai.

Dr Jac Larner
Disgrifiad o’r llun,

Mae "naratif yn ffurfio yng Nghymru ble os ydych chi eisiau atal Reform yna mae angen i chi bleidleisio dros Blaid Cymru", meddai Dr Jac Larner

Dywedodd Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd taw un o'r problemau sy'n wynebu Llafur Cymru yw bod "naratif yn ffurfio yng Nghymru ble os ydych chi eisiau atal Reform yna mae angen i chi bleidleisio dros Blaid Cymru".

Oherwydd hynny, mae nifer o gefnogwyr Llafur yn awgrymu y byddan nhw'n pleidleisio'n dactegol dros Blaid Cymru yn 2026, meddai.

Dywedodd fod Llafur Cymru hefyd yn "talu'r pris" am amhoblogrwydd Llywodraeth Lafur y DU.

Cytunodd aelod uchel ei barch o fewn y blaid - sydd hefyd eisiau aros yn ddienw - bod y cwymp "trychinebus" yng nghefnogaeth y blaid yng Nghymru yn bennaf o ganlyniad i "fethiannau Llafur Llundain", gan gynnwys y Trysorlys sy'n "ymfalchïo mewn peidio gwario arian".

Rhybuddiodd bod y blaid yn wynebu'r "drochfa fwyaf yn ei hanes" ac oni bai am Eluned Morgan byddai pethau'n waeth eto.

Yn y cyfamser dywedodd un o Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan bod arweinyddiaeth y blaid ar lefel Brydeinig "yn broblem fawr", a bod y blaid mewn "llanast".

Ond wrth edrych ymlaen at etholiad mis Mai nesaf, dywedodd: "Rydyn ni'n gwybod beth sydd o'n blaenau ac mae hynny bron yn gwneud pethau'n haws."

Fe wnaeth ffynhonnell o'r blaid amddiffyn record Llywodraeth San Steffan yng Nghymru, gan nodi'r cyllid ychwanegol ar gyfer y rheilffyrdd yn benodol.

Gan gyfeirio at gyfnod Llafur Cymru mewn grym, dywedon nhw: "Rhaid i unigolion sydd mor barod i ymosod ar Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb personol am y 26 mlynedd diwethaf a'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu nawr."

Eluned Morgan a Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffynonellau'n awgrymu bod amhoblogrwydd llywodraeth Keir Starmer am gael effaith ar Eluned Morgan a Llafur Cymru

Dywedodd ffynhonnell sy'n gweithio y tu ôl i'r llen i Lafur Cymru, sy'n agos at Eluned Morgan, bod angen i'r Aelodau Seneddol Cymreig gynyddu'r pwysau ar Keir Starmer.

"Pe baen nhw'n dweud wrth Keir, 'chi'n mynd i golli Cymru, ydych chi'n sylweddoli hynny?' yna efallai y byddai'n dechrau gwrando," meddai.

Dywedodd yr un person bod Ms Morgan wedi "newid ei thîm yn dawel dros yr haf", gan ddisodli'r cyn-Aelod Seneddol Wayne David fel ei phrif ymgynghorydd.

"Mae hynny'n barod yn cael effaith fawr ar ffocws y llywodraeth," meddai.

Fe wnaethon nhw nodi hefyd bod nifer o ASau Llafur yn y Senedd yn ymddeol ym Mai.

"Gallan nhw adael gyda'n diolch a mynd â drama'r gorffennol gyda nhw," meddai.

'Yr etholiad yn ddewis'

Yn ymateb i'r pôl diweddaraf, dywedodd ysgrifennydd iechyd Cymru Jeremy Miles ddydd Iau: "Mae polau'n bwysig i ni edrych arnyn nhw ond maen nhw'n newid o dro i dro felly allwch chi ddim edrych ar un pôl yn unig.

"Yn amlwg dydy'r pôl diweddaraf ddim yn ddarlun positif i ni ond yw gwir yw ei fod yn atgof i ni i gyd bod yr etholiad yn ddewis i bobl Cymru."

Dydd Gwener daeth i'r amlwg fod Mr Miles wedi penderfynu na fydd yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.