'Dim amserlen i annibyniaeth' - Liz Saville Roberts

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai annibyniaeth fod yn broses hir, medd Liz Saville Roberts

  • Cyhoeddwyd

Byddai Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Plaid Cymru yn rhoi "cyfle" i drafod annibyniaeth, ond nid yw'r camau i gyflawni hynny "yn glir eto", yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts wrth y BBC nad yw'r setliad datganoli presennol wedi darparu gwasanaethau iechyd ac addysg uchel eu clod, a bod "rhaid i annibyniaeth fod y cam rhesymegol nesaf".

Ond ychwanegodd nad oes amserlen i hynny.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2026, ac mae arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud na fyddai'n cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud na fyddai'n cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru

Gallai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru "fod gymaint yn well pe bai gennym ni bwerau ychwanegol, cyllid ychwanegol," meddai Ms Saville Roberts wrth bodlediad Walescast BBC Cymru.

Dywedodd y gallai fod yn broses hir "oherwydd bod yn rhaid i hyn gael ei ddewis gan bobl Cymru - fel plaid byddwn yn cerdded tuag at annibyniaeth".

Ychwanegodd y byddai'r blaid yn dadlau ar bob cam y gallai Cymru "wneud yn well pe bai gennym ni fwy o adnoddau".

'Methu rhoi amserlen ar annibyniaeth'

Ychwanegodd Ms Saville Roberts y byddai Plaid Cymru mewn llywodraeth yn gofyn am fwy o bwerau - a phe bai hynny'n cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU - y byddai'n dangos "beth allai potensial trefn gyfansoddiadol wahanol ei olygu i Gymru".

"Yr hyn rydyn ni wedi'i gael ar gyfer datganoli hyd yma, dyw o ddim wedi cyflawni'n effeithiol yn y ffordd yr oedden ni'n gobeithio y byddai wedi'i wneud," meddai.

"Mae'n rhaid i botensial annibyniaeth fod y cam rhesymegol nesaf, ond alla i ddim rhoi amserlen i chi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.