Nodi 100 mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru ym Mhwllheli

Gwynfor Evans
Disgrifiad o’r llun,

Gwynfor Evans oedd AS cyntaf y blaid yn San Steffan, wedi iddo ennill is-etholiad yng Nghaerfyrddin ym 1966

  • Cyhoeddwyd

Ar y maes ym Mhwllheli, mae arwydd symudol ar y palmant yn hysbysebu nwyddau siop: "Tarot, Crisialau, Wicca, Reiki".

Cymerwch olwg uwchben ffenest y siop ac fe welwch chi arwydd arall ar blac llechen.

Arni, mae'r neges: "Yma mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Awst, 1925 y sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru."

Mae'n olygfa ryfedd, sy'n cuddio arwyddocâd gwleidyddol y lleoliad lle wnaeth chwe dyn o ddau grŵp cenedlaetholgar gwahanol gwrdd ganrif yn ôl yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol i ysgrifennu pennod newydd yn hanes gwleidyddol Cymru.

O ddydd i ddydd, mae'n hawdd gor-ddweud pa mor arwyddocaol yw digwyddiadau gwleidyddol.

Gall cyflymdra digwyddiadau gamliwio ein barn.

Ond cymerwch 100 mlynedd o hanes, ac fe gewch bersbectif cliriach o effaith plaid ar y wlad a'i phobl.

Felly, beth i'w feddwl o Blaid Cymru yn 100?

'Plaid brotest yn hytrach na phlaid lywodraethol?'

"Mae Plaid Cymru bellach wedi dod i brif ffrwd bywyd gwleidyddol Cymru," meddai cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad Plaid Cymru, Cynog Dafis.

Ym marn Elin Jones, y Llywydd presennol a chyn-weinidog Llywodraeth Cymru, "mae angen i'r blaid berchnogi ei rôl fel plaid lywodraethol chwith amgen".

Mae Leanne Wood, arweinydd benywaidd cyntaf y blaid, yn dweud: "Beth fyddwn i'n ei roi ar gerdyn adroddiad Plaid Cymru ar ôl 100 mlynedd?

"Ymdrech dda, brwdfrydedd mawr, gellid gwneud yn well."

Dywedodd cyn-ddarlithydd prifysgol Ms Wood a phedwerydd prif weinidog Llafur Cymru, Mark Drakeford: "Rwy'n credu bod Plaid Cymru bellach, mewn rhannau sylweddol, yn parhau i fod yn blaid brotest yn hytrach na phlaid lywodraethol."

Leanne WoodFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood oedd arweinydd benywaidd cyntaf y blaid, a hynny rhwng 2012 a 2018

Tra dywedodd Nick Bourne, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd ac, hyd yn hyn, un o'r gwleidyddion a ddaeth agosaf at sicrhau rôl y prif weinidog i Blaid Cymru yn dilyn trafodaethau clymbleidio 2007:

"Rwy'n credu, pe bai rhywun yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru, beth yw eich barn chi am Blaid Cymru, y byddent yn amlwg yn dweud annibyniaeth, yr iaith a'r diwylliant.

"A fyddent yn nodi unrhyw bolisi arall? Dydw i ddim yn siŵr y gallwn i, a dweud y gwir.

"Felly rwy'n credu bod hynny'n her i Blaid Cymru."

Dafydd Elis Thomas, Dafydd Wigley a Cynog DafisFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cynog Dafis (dde), mae'r blaid bellach "wedi dod i brif ffrwd bywyd gwleidyddol Cymru"

Pan gafodd y blaid ei sefydlu, roedd Plaid Cymru yn bennaf yn fudiad cymdeithasol a diwylliannol.

Cafodd y chwech gwreiddiol eu cymell gan yr uchelgais i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant, yn ogystal â sicrhau hunanlywodraeth i Gymru.

O ystyried hynny, mae gan Gymru ddatganoli, mae nifer y siaradwyr Cymraeg o leiaf yn sefydlog, ac mae yna sefydliadau diwylliannol helaeth.

Ond onid yw plaid wleidyddol yn cael ei barnu yn y pendraw yn ôl ei record yn y blwch pleidleisio?

Dafydd Ellis-Thomas, Ieuan Wyn Jones a Dafydd WigleyFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Ellis-Thomas, Ieuan Wyn Jones a Dafydd Wigley yn ystod cynhadledd y blaid yn 2007

Cymerodd fwy na 40 mlynedd ers ei sefydlu - tan 1966, yn is-etholiad San Steffan yng Nghaerfyrddin - i Blaid Cymru dorri trwyddo'n etholiadol.

"Roedd yn ganlyniad syfrdanol ac yn un cyfnodol hefyd," meddai cyn-arweinydd y blaid, Dafydd Wigley.

Er hynny, fe gollodd Gwynfor Evans y sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf – byddai'n adennill yr etholaeth ym 1974.

Ond er gwaethaf ambell i ganlyniad da – etholiad cyntaf Cynulliad Cymru ym 1999, yn bennaf – mae wedi bod yn record etholiadol anghyson i ddweud y lleiaf, gyda'r blaid yn cwympo ymhell y tu ôl i Lafur ac yn ei chael hi'n anodd gadael eu hôl mewn sawl rhan o Gymru.

Mae lleoliadau'r ddwy eisteddfod sydd ar naill ochr hanes y blaid yn tanlinellu hynny - Pwllheli ym 1925, a'r brifwyl yr wythnos hon yn Wrecsam lle y bydd y blaid yn dathlu ei chanmlwyddiant.

Cymerodd tan 1974 i Blaid Cymru gynrychioli ardal Pwllheli yn San Steffan am y tro cyntaf, ond mae bellach yng nghanol cadarnle etholiadol y blaid ar arfordir y gorllewin.

Ar y llaw arall, nid yw Wrecsam erioed wedi dod yn agos at ethol aelod o Blaid Cymru i'w chynrychioli yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at "bennod gyffrous iawn, iawn yn hanes y wlad"

Nid yw'r blaid erioed wedi ennill etholiad Cymru gyfan, na chwaith wedi arwain llywodraeth Cymru.

Ac eto, mae yna densiwn cyson o fewn y blaid ynghylch gwir bwrpas Plaid Cymru - ai bod yn asiant sy'n newid Cymru ei hun yw'r nod, neu bwyso ar Lafur i symud i'r un cyfeiriad?

Nôl yn 2021, wedi dod yn drydydd yn etholiad y Senedd ychydig fisoedd ynghynt, fe lofnododd Plaid Cymru gytundeb cydweithredu â llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau y byddai rhai o'i pholisïau'n gweld golau dydd.

Wrth siarad ar risiau'r Senedd yn dilyn cyhoeddi'r cytundeb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Adam Price: "I ni ym Mhlaid Cymru, nid Plaid Cymru yw'r gair pwysicaf - Cymru sy'n dod yn gyntaf i ni bob tro."

Ai dyma amser Plaid Cymru?

Naw mis i ffwrdd o'r prawf etholiadol nesaf a gydag arweinydd newydd wrth y llyw, Rhun ap Iorwerth, mae gan y blaid uchelgais wahanol.

Mae Dafydd Wigley ei hun yn cyfaddef nad oedd yn barod i arwain ym 1999 - canlyniad etholiad gorau Plaid Cymru ym Mae Caerdydd hyd yn hyn.

"Roedden ni wedi gwneud ein gwaith fel gwrthblaid ac wedi sefydlu llwyfan ar gyfer llywodraethu, ond nid oedden ni wedi cael yr holl bethau mewn trefn, fel petai," meddai.

Gyda 2026 o fewn golwg, mae'r blaid yn llygadu'r safle cyntaf ac, os yw rhai o'r arolygon barn yn gywir, fe allai hynny ddigwydd.

Gyda system bleidleisio newydd sydd yn adlewyrchiad mwy cywir o sut y mae pobl yn pleidleisio, mae'r etholiad nesaf yn argoeli i fod yr un mwyaf diddorol ers dechrau datganoli.

A fydd Llafur yn parhau mewn grym? A yw Reform UK ar fin ysgwyd y drefn sefydledig? Neu a dyma amser Plaid Cymru i gymryd yr awenau?

Nid yw'r bennod honno o'r llyfrau hanes wedi'i hysgrifennu eto.

Mae modd gwylio 'Plaid Cymru at 100', dolen allanol ar BBC One Wales am 22:40 nos Fawrth 5 Awst neu ar iPlayer.