Rhybudd bod llygredd o afonydd Cymru yn 'mygu'r môr'

Mae Gareth Clubb o WWF Cymru eisiau gweld gwell gorfodaeth o reolau ansawdd y dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae llygredd o afonydd yng Nghymru hefyd yn effeithio ar yr arfordir ac yn "mygu ein moroedd", meddai ymgyrchwyr.
Mae WWF Cymru yn rhybuddio bod lefelau uchel o faetholion o lygredd amaethyddol a charthffosiaeth yn arwain at ordyfiant algâu a allai orchuddio gwely'r môr.
Daw wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi asesiadau newydd o gyflwr ardaloedd gwarchodedig ar hyd arfordir Cymru.
Maen nhw'n datgelu bod nifer o safloedd yn dioddef o lygredd maetholion.
Roedd hefyd dros hanner y rhywogaethau a chynefinoedd a gafodd eu hastudio mewn cyflwr anffafriol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r adroddiadau yn darparu "gwybodaeth hanfodol" i helpu adfer yr amgylchedd morol.
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
Ym mis Mawrth, fe gadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod saith allan o'r naw afon sydd wedi'u dynodi yn ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) yn methu targedau ansawdd dŵr o ganlyniad i lefelau uchel o faetholion.
Roedd pridd, gwrtaith a slyri o dir fferm, yn ogystal â gollyngiadau o ddŵr gwastraff a llygredd o ddiwydiannau yn cyfrannu at y broblem.
Mae'r sefyllfa eisoes wedi arwain at gyfyngiadau ar adeiladau tai ar hyd afonydd ACA.
Wrth lansio maniffesto o ofynion cyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, mae WWF Cymru yn dweud bod darlun tebyg yn datblygu bellach o ran yr effaith ar y môr.
Roedd llygredd sy'n deillio o afonydd yn niweidio ecosystemau morol a gallu'r môr i storio carbon, "gan wneud yr amodau ar gyfer adfer a chryfhau cynefinoedd sy'n gyfoethog o ran carbon, megis caeau morwellt, yn heriol," meddai.
Mae'r elusen wedi galw am "gynllun adfer cryf" ar gyfer cynefinoedd morol, wedi'i gefnogi gan y gyfraith a chyllid.

Gall llygredd effeithio ar dyfiant caeau morwellt, sy'n gynefin pwysig ond hefyd yn arf yn erbyn newid hinsawdd gan eu bod yn amsugno carbon
Fel gydag afonydd, mae aberoedd ac ardaloedd o'r môr o amgylch Cymru wedi'u gwarchod hefyd oherwydd eu pwysigrwydd fel cynefinoedd i fywyd gwyllt.
Bellach mae CNC wedi cyhoeddi cyfres o asesiadau a chyngor ynglyn â chyflwr yr ACAoedd morol yma.
Mae'r corff wedi disgrifio'r adroddiad fel "y mwyaf cynhwysfawr hyd yma ar gyflwr ardaloedd gwarchodedig morol drwy Ewrop".
Cafodd cyfanswm o 85 nodwedd pwysig eu hasesu - o rywogaethau prin fel morloi a dyfrgwn i gynefinoedd sydd wedi'u gwarchod fel gwastadeddau llaid a morfeydd heli.
Ar draws yr holl ardaloedd gwarchodedig - roedd 55% o'r nodweddion mewn cyflwr anffafriol, gyda 38% yn ffafriol a diffyg gwybodaeth am 7%.
'Yr afon yn dirywio o flaen ein llygaid'
Nododd CNC mai llygredd maetholion oedd "un o'r prif resymau" pam fod problemau ar rai safloedd.
Cafodd adroddiadau penodol eu paratoi ar gyfer saith ACA, gyda phump o'r rheiny yn methu targedau ansawdd dŵr o ganlyniad i ormod o faetholion.
Maen nhw'n cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Morol Sir Benfro, sy'n un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer twristiaid.
Yn yr amgylchedd morol, y maetholyn sy'n achosi pryder gan amlaf yw nitrogen - sy'n deillio'n bennaf o dir fferm a digwyddiadau llygredd amaethyddol, awgryma'r adroddiad.

Dywedodd yr ymgyrchydd Ric Cooper ei fod yn gobeithio y bydd asesiadau newydd o gyflwr ardaloedd gwarchodedig yn y môr yn sbarduno mwy o weithredu
Mae Ric Cooper yn un o sefydlwyr Prosiect Cleddau yn Sir Benfro, grŵp o wirfoddolwyr sy'n gweithio i adfer prif afonydd y sir.
"Dwi'n byw ar aber yr Afon Cleddau a fel pobl eraill dwi wedi bod yn poeni mwy a mwy ynglŷn â'i chyflwr," meddai.
"Mae'n amlwg yn arogli o garthffosiaeth a weithiau slyri a mae'r bywyd yn yr afon yn dirywio o flaen ein llygaid."
"Mae gynnon ni algâu ar ochrau'r afon a matiau o algâu yn datblygu yn yr haf o ganlyniad i faetholion yn y dŵr, y gwres a'r heulwen."
Roedd cyflwr yr afon a'r amgylchedd morol "wedi'u cysylltu'n agos", eglurodd Mr Cooper, ond roedd yn teimlo bod yr effaith ar yr arfordir a'r môr "yn stori sydd wedi'i hanghofio".
"Dy'n ni ddim wedi gweld yr un fath o bwysau i wella pethau ar yr aber â ry'n ni wedi gweld ar yr afon."
Dywedodd bod y grŵp, sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cydlynu gwaith monitro ansawdd dŵr gan 100 o wirfoddolwyr, yn edrych ymlaen yn fawr i gael darllen adroddiadau CNC.
"Ry'n ni eisiau'r ffaeleddau'r afon i gael eu gwneud yn hysbys - bod 'na sylw'n dod i'r ffaith bod ni mewn lle gwael a bydd rhaid i'r awdurdodau benderfynu beth i'w wneud wedyn."
"Dwi'n gobeithio y bydd yn sbarduno mwy o weithredu," meddai.
'Difrodi safleoedd sy'n hollbwysig i fywyd yn y môr'
Dywedodd Gareth Clubb, pennaeth WWF Cymru bod yr adroddiadau'n amlygu nad yw ACAoedd morol Cymru mewn cyflwr da.
"Mae llygredd yn effeithio ar hyfywedd y cynefinoedd yn yr ardaloedd yna a difrod yn cael ei achosi i safleoedd sy'n hollbwysig i fywyd yn y môr," meddai.
Mae'r elusen yn galw am well gorfodaeth o reolau yn ymweud â thaclo llygredd, yn ogystal â chyllid digonol i CNC a "phrosiectau sy'n trio sicrhau glendid yr afonydd a'r moroedd".
Roedd angen Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd sydd "wir yn trin y problemau sy'n hanu o driniaeth anghynaliadwy o'r tir," ychwanegodd.
'Cydnabod rhan ffermwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru bod yr undeb amaethyddol yn cydnabod "y rôl sydd gan ffermwyr i'w chwarae wrth gynnal a gwella ansawdd dŵr yng Nghymru".
"Mae ffermwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifri' ac mae NFU Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn lleihau achosion o lygredd amaethyddol, lle mae'r dystiolaeth yn dangos bod angen gwneud hynny," meddai.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn deall pwysigrwydd ansawdd dŵr i gwsmeriaid, a'u bod yn bwriadu buddsoddi biliynau o bunnoedd mewn "cynlluniau amgylcheddol" erbyn 2030.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r cwmni'n "adeiladu ar waith CNC" er mwyn deall o ble mae'r maetholion yn dod, gan ddweud nad yw "llygredd afonydd a safon dŵr morol yn broblem i gwmnïau dŵr yn unig".
"Rhaid i ni weithio gyda sectorau eraill sy'n cael effaith ar safon dŵr er mwyn sicrhau gwelliant."
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mai
Dywedodd Mary Lewis o Gyfoeth Naturiol Cymru bod llawer iawn o wybodaeth ac arbenigedd wedi'i ddefnyddio "er mwyn cynhyrchu tystiolaeth mor gynhwysfawr ynglyn â chyflwr ein hardaloedd gwarchodedig".
"Fydd hyn nawr yn darparu sylfaen bwysig i ni fedru monitro cyrhaeddiad," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod asesiadau CNC yn "darparu gwybodaeth hanfodol i helpu datblygu gweithrediadau rheoli fydd yn gwella iechyd a gwytnwch" safleoedd gwarchodedig ar hyd yr arfordir.
"Ry'n ni wedi ymrwymo i wella cyflwr ein hafonydd a'n moroedd ac ry'n ni'n ymgymryd â nifer o bethau fydd yn gwella ansawdd dŵr - gan gynnwys gweithredu holl argymhellion yr adolygiad diweddar i reoliadau llygredd amaethyddol ar frys," ychwanegodd llefarydd ar eu rhan.
Roedd deddfwriaeth newydd ar yr amgylchedd a gafodd ei chyflwyno i'r Senedd yn ddiweddar hefyd "yn adlewyrchu'r angen parhaus am gamau... i ddelio â'r hyn sy'n ysgogi colledion bioamrywiaeth fel llygredd maetholion".