'Fydd dim gweithlu ar ôl os ydy athrawon yn dal i adael'

Mae Ioan Rhys Jones yn dweud bod rhai athrawon yn gweithio dwy neu dair awr ychwanegol yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae undeb addysg yn rhybuddio "fydd 'na ddim gweithlu ar ôl" gan ddweud bod mwy a mwy o athrawon yn gadael y maes.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r "pwysau gwaith aruthrol" os yw Cymru am weld mwy o bobl yn dod yn athrawon.
Dywedodd Ioan Rhys Jones bod rhai aelodau UCAC yn gweithio drwy gydol eu hawr ginio, neu'n aml tan 22:00, a bod mwy yn penderfynu gadael y proffesiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd cadw staff ond yn dweud "bod cymelliadau ariannol hael i ddenu athrawon newydd mewn pynciau â blaenoriaeth".
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Ychwanegodd Mr Jones nad ydy "dweud bod gan athrawon 13 wsos o wylie y flwyddyn a deud bod nhw ond yn gweithio 9 tan dri neu hanne' 'di tri" yn "rhoi y delwedd cyfan i chi".
"Ma' 'na gyfarfodydd ychwanegol gan ysgolion. Mewn rhai ysgolion ni'n sôn am ddwy, dair awr ychwanegol yr wsos" meddai.
"Ar ben hynny, pryd ma' athrawon yn ca'l amser i baratoi ac i asesu gwaith?" gofynnodd.
'Dwi 'sgafnach fy meddwl'
Un sydd wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel athrawes llawn amser yn ddiweddar yw Ffion Mai Jones o Landygai ger Bangor.
I'r mam i ddau o blant, roedd camu i fyd busnes ac agor stiwdio ewinedd yn ei chartref yn "benderfyniad mawr i 'neud ar y pryd".
"O fy mhrofiad i, mi fyswn i'n aros yn yr ysgol tan tua 5, dod adra' fysa hi'n fatar o neud te, setlo pawb a gorod mynd yn ôl wedyn i 'neud mwy o waith.
"Hyd yn oed yn y gwylia' ma' 'na dal waith i'w 'neud ac os ma' 'na rwbath 'da chi heb 'neud yn ystod amser ysgol yna ma' rhaid i chi 'neud o yn amsar eich hun i ddal fyny."
Er ei bod yn disgrifio dysgu "fel swydd oedd yn dod â boddhad mawr i mi, wrth i mi fagu teulu doedd y gofynion ddim yn cyd-fynd efo fy mywyd personol i".

Dywedodd Ffion Mai Jones "hyd yn oed yn y gwylia' ma' 'na dal waith i'w 'neud"
Erbyn hyn mae Ffion hefyd yn dysgu cyrsiau trin ewinedd ac yn angerddol dros ysbrydoli eraill am y byd busnes.
"O ran fi fel person dwi 'sgafnach fy meddwl oherwydd does gen i ddim y pwysa' gwaith a'r gofynion sydd yn dod efo'r swydd," meddai.
"Ma'n anodd cal y balans, dwi'n siŵr bod 'na athrawon sy'n gallu cal y balans, felly o'n i'n teimlo o'dd o'n rhywbeth oedd rhaid fi ail-ystyriad a dwi'n lwcus iawn bod fi 'di troi diddordeb yn swydd dwi'n ei fwynhau yn llwyr."
Fis diwethaf, fe rybuddiodd Cyngor y Gweithlu Addysg fod Cymru ond yn hyfforddi traean o'r athrawon ysgol uwchradd sydd eu hangen yng Nghymru.
Yn ôl Ioan Rhys Jones, mae angen i Lywodraeth Cymru "fuddsoddi yn ein hysgolion neu fydd 'na ddim gweithlu ar ôl".
Mewn ymateb, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwybod bod ysgolion yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff.
"Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â llwyth gwaith staff, ac mae gennym gymelliadau ariannol hael i ddenu athrawon newydd mewn pynciau â blaenoriaeth."
Fe ychwanegon nhw eu bod yn "darparu £262.5m arall i'r sector addysg, a hynny ar ben y cyllid pellach i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2024
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024