Addysg Gymraeg yn unig yn peryglu gwaethygu 'creisis' denu athrawon

- Cyhoeddwyd
Gallai gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg mewn sir yn y gogledd waethygu'r "creisis" o geisio denu a chadw athrawon, mae cyngor wedi clywed.
Fe glywodd cyfarfod Cyngor Gwynedd ei bod eisoes yn "anodd" i ddenu staff i ysgolion yr ardal, a bod nifer o athrawon yn gadael y proffesiwn ar draws Cymru.
Cafodd y sylwadau eu gwneud yn ystod dadl dros ddrafft Polisi Iaith Addysg Ddiwygiedig yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg a'r Economi y Cyngor yr wythnos diwethaf.
Daw hyn wedi i Gyngor Gwynedd gyhoeddi eu bod yn bwriadu gwneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir yn y dyfodol.
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
Maen gan Gyngor Gwynedd y nod o weld fod 70% o wersi'r sir yn cael eu dysgu yn Gymraeg.
Fe wnaeth ysgrifennydd cangen Undeb Cenedlaethol Addysg, NEU, Elise Poulter, leisio pryder athrawon am hyfforddi, cyllid a'r effaith ar system drochi'r Gymraeg.
Cymraeg yw prif iaith addysgu y rhan fwyaf o sefydliadau addysg Gwynedd eisoes.
Ond mae rhai ysgolion, gan gynnwys Ysgol Friars, Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor ac Ysgol Uwchradd Tywyn, yn "trawsnewid" i addysg cyfwng Cymraeg cyflawn.
'Dim effaith negyddol ar y gweithlu'
Mae undeb athrawon UCAC eisoes wedi dweud eu bod yn "croesawu unrhyw ymrwymiad gan Gyngor Gwynedd i sicrhau mai'r Gymraeg fydd prif gyfrwng addysgu pob ysgol yn y sir."
Maen nhw'n nodi: "Ni allwn weld y bydd effaith negyddol ar y gweithlu, er y bydd galw i uwch-sgilio o le i le mae'n siŵr."
Fe ychwanegon nhw fod "tystiolaeth yn dangos nad oes modd trwytho'r Gymraeg yn llwyddiannus oni bai mai dyna yw cyfrwng yr addysgu".
"Mae pwysau annheg wedi bod ar yr ysgolion i ddarparu yn y Saesneg i leiafrif, gan geisio addysgu yn ddwyieithog sydd yn ei dro wedi cael effaith andwyol ar addysg mwyafrif y dysgwyr ac yn cynyddu llwyth gwaith athrawon."
'Cyrsiau i athrawon di-Gymraeg'
Ond fe holodd Elise Poulter a fydd yna "ddarpariaeth" i'r athrawon sydd ddim yn addysgu yn Gymraeg ar hyn o bryd i fynd ar gyrsiau neu i gael eu rhyddhau i fynd ar gyrsiau i "ddatblygu eu sgiliau".
Dywedodd awdur yr adroddiad, Rhys Meredydd Glyn, pennaeth system drochi addysg Gwynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Canolfan Dysgu Cymraeg, a bydd yr awdurdod yn "cydweithio â nhw," a'u bod yn cynnig cyrsiau i bob lefel.
Mae rhai cyrsiau wedi eu "teilwra'n arbennig" i athrawon mewn ysgolion penodol, gan ystyried amserlenni, a chyrsiau wyneb yn wyneb ac ar y we yn rhannol, meddai.
Bydd tiwtoriaid ar gael ac yn cael eu penodi i ardaloedd ac ysgolion gwahanol.
"Os oes gen ti athro sy'n methu dysgu mathemateg neu ffiseg yn Gymraeg, yna bydd cyrsiau penodol ar gyfer rheiny," meddai.
Roedd rhai cyrsiau preswyl haf ar gael hefyd, meddai.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Bydd plant sy'n dod o ardaloedd di-Gymraeg hefyd yn cael eu cyfeirio at system drochi addysg Cyngor Gwynedd, ond roedd 'na "ymwybyddiaeth o fwy o bwysau" ar y cynllun.
"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym y capasiti i dderbyn pobl i mewn, a rhai yn hwyr," meddai.
'Angen bod yn realistig'
Dywed Ms Poulter na fydd y mesurau yma yn newid nifer y bobl sy'n gadael y proffesiwn: "Dwi'n meddwl fod angen i ni fod yn realistig, mae gennym greisis recriwtio o fewn dysgu.
"Mae nifer o athrawon yn gadael y proffesiwn, does gennym ni ddim digon o bobl yn dewis gwneud y cwrs TAR.
"Bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar, os ydym am gyrraedd y nod. Rydym eisiau athrawon da iawn. Dwi'n meddwl bydd unrhyw athro sy'n dod yma yn croesawu'r cyfle i ddysgu Cymraeg yn rhugl.
"Mae'n rhaid i ni ddarparu hwnna, fel ein bod yn medru darpau addysg wych i'n plant, ond bydd yn cymryd amser."
Fe gytunodd y cynghorydd Dewi Jones gan ddweud fod reciwtio atharwon yn "broblem gyffredinol".
"I rhai ysgolion bydd yn heriol cyrraedd y 70%, ond dyna pam rydym yn cymryd ein hamser," meddai.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ms Poulter wrth y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol: "Mae cyfraith cyflogaeth yn golygu na ellir diystyru pobl ddi-Gymraeg, a byddai'r rhan fwyaf yn croesawu'r cyfle i ddysgu Cymraeg."