Y cyn-weinidog Lesley Griffiths i adael y Senedd yn 2026

Roedd Lesley Griffiths yn un o bedwar aelod cabinet a ymddiswyddodd o'r llywodraeth, gan annog ymddiswyddiad y Prif Weinidog Vaughan Gething
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll yn etholiad nesaf y Senedd.
Hi yw'r nawfed AS Llafur i gyhoeddi eu bwriad i ymddiswyddo yn 2026.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd AS Wrecsam ei bod wedi bod yn "fraint llwyr" cynrychioli'r etholaeth.
Yn y cyfamser cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates, ei fod yn gobeithio cael ei ddewis fel ymgeisydd Llafur yn etholaeth newydd Wrecsam sydd wedi ei ehangu.
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
Cafodd ei hethol gyntaf i Fae Caerdydd yn 2007, ac mae wedi gwasanaethu fel gweinidog materion gwledig, iechyd, llywodraeth leol a diwylliant Llywodraeth Cymru, yn ogystal â rheolwr busnes a gweinidog gogledd Cymru.
Fis Gorffennaf diwethaf, roedd hi'n un o bedwar aelod cabinet a ymddiswyddodd o'r llywodraeth, gan annog ymddiswyddiad y Prif Weinidog Vaughan Gething.
Mewn datganiad ar Facebook ddydd Gwener, dywedodd Ms Griffiths: "Rwyf heddiw wedi hysbysu Plaid Lafur etholaeth Wrecsam na fyddaf yn ceisio cael fy ailethol yn etholiad Senedd 2026.
"I etholwyr Wrecsam, mae wedi bod yn fraint llwyr eich cynrychioli chi fel Aelod Llafur Cymru o'r Senedd ers 2007 ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i wneud hynny hyd eithaf fy ngallu tan yr etholiad nesaf."
Y gweddill sydd eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n dychwelyd i Fae Caerdydd yw'r cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething, gweinidog yr economi Rebecca Evans, y dirprwy weinidog Dawn Bowden, y cyn-ddirprwy weinidog Lee Waters, y cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, AS canolbarth a gorllewin Cymru Joyce Watson ac AS gogledd Caerdydd Julie Morgan.