Ceidwadwyr: 'Angen plismyn mewn ardaloedd gwledig'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod sicrhau bod heddlu'n cael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig yn un o brif flaenoriaethau'r blaid ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yr wythnos hon.
Er bod lefelau trosedd wedi gostwng, dywed y blaid eu bod yn dal yn rhy uchel, a byddai comisiynwyr Ceidwadol yn gweithio i sicrhau eu bod yn parhau i ostwng.
Wrth siarad tra’n ymgyrchu, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Er bod trosedd wedi gostwng ar draws y Deyrnas Unedig, mae'n dal yn rhy uchel, ac rydym wedi cynnig tîm gwych o ymgeiswyr sy'n mynd i fod yno i gefnogi'r heddlu, ond sydd hefyd yn cefnogi dioddefwyr trosedd a sicrhau bod lefel troseddu yn gostwng ymhellach."
Wrth drafod y toriadau i nifer yr heddlu a wnaed gan Lywodraeth Geidwadol y DU dan arweiniad David Cameron ar ôl 2010, dywedodd Mr Davies: "Mae gennym ni fwy o heddlu nawr nag yn 2010.
"Ry’n ni wedi cynyddu nifer yr heddweision, ac ry’n ni wedi edrych yn ofalus ar faterion fel 'stopio ag archwilio', ac wedi cyflwyno polisïau nawr sy'n rhoi'r pwerau sydd eu hangen ar yr heddlu."
Ychwanegodd: "O ganlyniad i hynny, ry'n ni wedi gweld gostyngiad mewn troseddau treisgar.
"Felly rwy'n credu y gall pobl ymddiried yn y Ceidwadwyr a byddan nhw’n gwybod mai'r blaid Geidwadol yw plaid cyfraith a threfn."
Dywedodd y byddai gwella plismona gwledig yn flaenoriaeth.
"Yn amlwg rôl y comisiynydd yw dwyn y prif gwnstabl i gyfrif, a sicrhau bod y blaenoriaethau plismona yn adlewyrchu anghenion yr ardal, felly byddwn yn edrych, er enghraifft, ar sicrhau bod yr heddlu wedi'u lleoli mewn ardaloedd gwledig."
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2024
Er nad yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â gwaith dydd i ddydd yr heddlu, maen nhw'n gosod blaenoriaethau a chyllideb flynyddol ar gyfer pob ardal.
Yng Nghymru mae pedwar Comisiynydd, un ar gyfer pob ardal blismona - De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys, a Gogledd Cymru.
Mae'r prif bleidiau yng Nghymru - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - i gyd yn cynnig ymgeiswyr ym mhob ardal.
Ar hyn o bryd ymgeiswyr Llafur sydd yn gomisiynwyr yng Ngwent, Gogledd Cymru a De Cymru, tra bod ymgeisydd Plaid Cymru yn gomisiynydd yn Nyfed-Powys.
Pwy sy'n sefyll y tro hwn?
Dyfed-Powys
Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru
Gwent
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig
Jane Mudd, Llafur Cymru
Gogledd Cymru
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig
David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
De Cymru
Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024