Safonau'r Gymraeg i barhau er eu bod yn 'llafurus, costus a chymhleth'

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 fe ailgyfeiriodd Eluned Morgan adnoddau oedd yn cael eu defnyddio i gyflwyno a phlismona'r safonau

  • Cyhoeddwyd

Bydd Ysgrifennydd Cabinet newydd y Gymraeg, Eluned Morgan yn parhau i gyflwyno rheoliadau safonau'r Gymraeg er iddi oedi gwneud hynny y tro diwethaf iddi fod yn gyfrifol am yr iaith.

Penderfynodd hi yn 2018 na fyddai Llywodraeth Cymru'n gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu'r safonau iaith am y tro am fod "y broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, costus a chymhleth".

Ar ôl i'w holynydd Jeremy Miles fwrw ymlaen gyda'u cyflwyno, mae Ms Morgan unwaith eto yn gyfrifol am y Gymraeg - yn ogystal ag am iechyd a gofal cymdeithasol - wedi i'r Prif Weinidog Vaughan Gething ad-drefnu'r cabinet.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "byddwn yn parhau i ddilyn y rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg" ar gyfer cwmnïau dŵr, trafnidiaeth gyhoeddus, cyrff cyhoeddus sydd newydd eu sefydlu, a chymdeithasau tai.

Mae'r safonau iaith yn rheolau sy'n gorfodi sefydliadau i ddarparu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad y safonau, a ddaeth i rym ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan y Cynulliad Cenedlaethol (Senedd Cymru erbyn hyn) yw:

  • cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg;

  • gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan gyrff;

  • ei gwneud yn glir i gyrff yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg.

Pan benderfynodd hi yn 2018 i "ailgyfeirio adnoddau" oedd yn cael eu defnyddio i gyflwyno a phlismona'r safonau, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi "bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffon lle bo hynny'n bosib".

Mae cyn-weinidog y Gymraeg arall, Alun Davies o'r farn bod Llywodraeth Cymru a rôl Comisiynydd y Gymraeg wedi "gwastraffu gormod o amser, egni, ac adnoddau" ar safonau iaith.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jeremy Miles eisiau i system safonau'r Gymraeg helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg

Roedd y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2021 - ac a ddaeth i ben ym mis Mai - yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor y Senedd bresennol yn 2026.

Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i dros 120 o gyrff gydymffurfio â'r safonau.

Roedd Jeremy Miles, pan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, wedi pwysleisio "mai fy mlaenoriaeth yw gweld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg".

Ond meddai, roedd "arnaf eisiau i'r safonau roi'r hyder i'r cyhoedd ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg, sut bynnag y maent yn dewis cyfathrebu â'r cyrff cyhoeddus hyn, ac rwy'n disgwyl i'r safonau ffurfioli a gwella'r cynnig Cymraeg a ddarperir eisoes gan lawer o'r cyrff hyn i helpu i hwyluso a chynyddu defnydd o'r Gymraeg".

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori , dolen allanolar ychwanegu chwe chorff cyhoeddus - sef Awdurdod Cyllid Cymru, Y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymwysterau Cymru, a Phanel Dyfarnu Cymru - ac un categori o bersonau, sef awdurdodau iechyd arbennig - Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, ac Awdurdod Busnes y GIG - i fod yn ddarostyngedig i'r safonau.

Unwaith y pennir corff neu gategori o bersonau yn y rheoliadau, gall Comisiynydd y Gymraeg wedyn gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau.

Ymatebodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith, "mae ymgynghoriad ar hyn o bryd i gyflwyno safonau ar nifer fach o gyrff cyhoeddus.

"Tra bod hyn i'w groesawu mae angen cyflwyno safonau ar gyrff sy'n effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd - darparwyr ym maes iechyd a gofal, cwmnïau dŵr, trydan, ffôn ac ati. Mae hyn o fewn gallu’r llywodraeth nawr."

Dim opsiwn 'sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol'

Fis diwethaf, cyhoeddwyd yr wythfed adroddiad blynyddol ar sut mae Llywodraeth Cymru ei hun yn gweithredu a chydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg.

Derbyniwyd 26 cwyn am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru, sydd yn is na’r 30 a dderbyniwyd y llynedd.

Roedd 14 o'r cwynion am wasanaeth Trafnidiaeth Cymru - Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar gwmni Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau trên ar hyd rhan fwya'r wlad ers 2018.

Dywed Llywodraeth Cymru bod Trafnidiaeth Cymru wedi "gweithio i wella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid", gyda gweithgareddau diweddar yn cynnwys:

  • Gwella gwybodaeth ddwyieithog i gwsmeriaid, yn glywedol a gweledol, ar yr holl fflydoedd trenau newydd;

  • Mae cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd yn cael eu huwchraddio, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi'i gwblhau;

  • Rhoddwyd rhaglen ddigidol arloesol yn ei le i gyflwyno swyddogaeth gyfieithu ar gyfer gwybodaeth byw a ddangosir ar wefan TrC – mae’r rhaglen wedi bod yn fyw ers Mehefin 2023 ac yn cyfieithu llif byw a ddaw yn Saesneg yn unig gan National Rail Enquiries.

O ran data recriwtio Llywodraeth Cymru, dywed eu bod wedi cyflwyno porthol recriwtio newydd, ‘Cais’.

Nid yw’r categori "sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol” yn opsiwn i reolwyr llinell wrth hysbysebu swyddi ar y porthol newydd.