Ceidwadwyr yn galw am gau swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru

Y Ddraig Goch
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 fe wnaeth Llywodraeth Cymru agor swyddfeydd yn Canada, Ffrainc, Qatar a'r Almaen

  • Cyhoeddwyd

Dylid cau 20 swyddfa Llywodraeth Cymru dramor a gwario'r £4.7m fyddai'n cael ei arbed ar wasanaethau cyhoeddus allweddol, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Mae swyddfeydd mewn dinasoedd yng Ngogledd America, Ewrop, China, India, Japan, y Dwyrain Canol ac Affrica, gan gynnwys dinasoedd fel Beijing, New Delhi, Tokyo ac Efrog Newydd.

Dywedodd Darren Millar fod y Blaid Lafur yn "hurt" am "wastraffu miliynau o bunnoedd" ar "lysgenadaethau bach" pan mai cyfrifoldeb gweinidogion y DU yw cysylltiadau rhyngwladol, a phan fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan bwysau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y swyddfeydd yn "cysylltu Cymru gyda'r byd", yn denu masnach a buddsoddiad ac yn cefnogi busnesau Cymreig gyda marchnadoedd allforio.

MontrealFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa ym Montreal

Wrth ysgrifennu at y Prif Weinidog Eluned Morgan, dywedodd Darren Millar fod Llywodraeth y DU "yn cynrychioli Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, trwy rwydwaith cynhwysfawr o lysgenadaethau a swyddfeydd is-genhadon ledled y byd".

"Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, gyda'n GIG o dan bwysau difrifol, cynghorau lleol yn gwneud toriadau oherwydd heriau ariannol, a theuluoedd yn mynd i'r afael â phwysau costau byw, bod yn rhaid gwario pob punt o arian trethdalwyr lle mae ei angen fwyaf," meddai.

"Rwy'n eich annog felly i ddechrau ar unwaith ar y broses o gau'r swyddfeydd tramor diangen hyn, tra'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu hyrwyddo'n ddigonol dramor, gan ddefnyddio llysgenadaethau'r DU yn ôl yr angen."

'Cysylltu Cymru gyda'r byd'

Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru amddiffyn y swyddfeydd tramor, gan bwysleisio eu bod yn gweithio'n "agos iawn gyda Llywodraeth y DU i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol".

"Mae ein swyddfeydd rhyngwladol yn cysylltu Cymru gyda'r byd, yn cefnogi ein heconomi drwy ddenu masnach a buddsoddiad ac yn cefnogi busnesau Cymreig gyda marchnadoedd allforio," meddai'r llefarydd.

"Er enghraifft, mae ein swyddfeydd yn India wedi helpu i adeiladu ein perthynas â'r wlad ac wedi arwain at recriwtio llawer o nyrsys a meddygon o India i chwarae rhan bwysig yn y GIG yng Nghymru."