Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 'gwleidyddiaeth aeddfed'

Jane Dodds.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fis diwethaf fe ddaeth Jane Dodds i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i basio'r gyllideb flynyddol o £26bn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo "gwleidyddiaeth aeddfed" yn ystod ymgyrch etholiadol y Senedd flwyddyn nesaf.

Dywedodd Jane Dodds, sy'n arwain y blaid Gymreig, fod ei chytundeb i basio cyllideb Llywodraeth Cymru yn enghraifft o'i hawydd i osgoi "gemau gwleidyddol".

Fis diwethaf fe ddaeth i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i basio'r gyllideb flynyddol o £26bn, wedi iddi sicrhau £108m ychwanegol am ofal cymdeithasol, cynllun tocynnau bysiau am £1 i bobl ifanc a gwaharddiad ar rasio milgwn, ymysg mesurau eraill.

Ms Dodds yw'r unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

"Roedd cyfrifoldeb arnon ni i wneud yn siŵr bod y gyllideb yn mynd drwodd, oherwydd pe na bai'r gyllideb honno'n mynd drwodd, pobl Cymru fyddai wedi colli £5bn yn syth," meddai.

"Nid dyna'r fath o wleidydd dwi eisiau'i fod.

"Dydw i ddim eisiau gwleidyddiaeth i chwarae gyda bywydau pobl."

Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'n rhaid "aros a gweld" a fydda hi'n dilyn esiampl arweinydd y blaid, Syr Ed Davey, a defnyddio stynts amrywiol i ddenu sylw.

Fe lwyddodd Syr Ed i ennill 72 sedd – record i'r blaid – yn yr etholiad cyffredinol llynedd, wedi iddo badlfyrddio, seiclo rownd Tref-y-clawdd a gwneud naid bynji yn ystod yr ymgyrch.

'Eisiau cyflawni dros Gymru'

Ychwanegodd Ms Dodds: "Neithiwr roeddwn i'n curo ar ddrysau... roedd pobl yn dweud eu bod eisiau gwleidyddiaeth aeddfed.

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl, ein gwleidyddion, yn cyflawni dros Gymru.

"Dyna beth rydyn ni wedi'i wneud o'r blaen, a dyna beth fyddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol."

Mae'r blaid yn ymgynnull yng Nghaerdydd ddydd Sul ar gyfer cynhadledd y Gwanwyn.

Fe gafon nhw hwb nos Iau wrth gipio sedd mewn isetholiad yng Nghastell Nedd Port Talbot, gan guro Plaid Cymru, Reform a Llafur yng Nghwmllynfell ac Ystalyfera.