Dathlu degawd o Ddydd Miwsig Cymru ond beth nesaf i'r 'SRG'?
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dathliadau Dydd Miwsig Cymru yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad am y degfed tro eleni, ond sut fydd y sîn gerddorol yng Nghymru yn edrych ymhen 10 mlynedd arall?
Bwriad y diwrnod yw dathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg o bob math, a chynnig llwyfan i artistiaid Cymraeg newydd.
Dros y degawd diwethaf mae gigiau a chyngherddau Dydd Miwsig Cymru wedi eu cynnal ar draws y byd gan gynnwys yn Budapest yn Hwngari ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.
Ond yn ôl rhai sydd yn rhan o'r diwydiant cerddorol, mae'n rhaid parhau i ehangu a datblygu'r math o gerddoriaeth sy'n cael ei glywed drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
Mae'r diwrnod yn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg o bob genre ac mae'r trefnwyr eisoes wedi dweud bod y diwrnod yn rhan o'r weledigaeth hirdymor , dolen allanolo weld miliwn o bobl yn siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Tara Bandito, cantores sydd wedi bod yn rhan o'r dathliadau dros y blynyddoedd, mae'n rhaid parhau i "weithio'n galed i ddod â miwsig Cymraeg i fewn i ysgolion".
Dywedodd fod rhaid sicrhau bod y genhedlaeth nesaf "wir yn ymwybodol o safon a bodolaeth Cerddoriaeth Cymraeg".
Mae busnesau ledled Cymru, gan gynnwys brandiau adnabyddus fel KFC, John Lewis, a Dŵr Cymru, hefyd yn cefnogi'r dathliad.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Dafydd Vaughan o Menter Iaith Sir Benfro, sydd hefyd yn rhan o'r band RocCana, fod angen "gwthio" cerddoriaeth Gymraeg yn fwy.
"Ry' ni'n neud lot i fanteisio ar y diwrnod a hybu cerddoriaeth Cymraeg. Ni'n neud tipyn o bethau – cynnal gig ysgolion a noson goffa Ail Symudiad sy'n rhyw fath o frwydr y bandiau i artistiaid ifanc," meddai.
"Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw berfformio a rhoi'r platfform yna iddyn nhw allu symud 'mlaen i'r dyfodol."
Er hyn, awgrymodd nad oes "digon o sylw" yn cael ei roi i'r bandiau ac artistiaid yng Nghymru.
"Mae angen i gerddoriaeth Gymraeg gael ei chwarae ym mhob man i'r pwynt lle nad oes neb hyd yn oed yn sylwi ar y peth."
'Anodd ffeindo headline acts'
Mae Dafydd yn cydnabod bod rhai mathau o gerddoriaeth yn cael ei hybu, ond dywedodd bod angen i wrandawyr "wybod lle i ffeindo caneuon gwahanol".
"Fi di bod mewn ysgolion uwchradd yn trio chwarae miwsig Cymraeg ond yr un caneuon ma' nhw gyd yn eu hadnabod – Sosban Fach, Yma o Hyd – y caneuon traddodiadol yna sy' 'di bod o gwmpas ers blynyddoedd.
"Er hynny dwi'n meddwl bod dyfodol eithaf llewyrchus i'r diwrnod (Dydd Miwsig Cymru) fi'n siŵr.
"Mae potensial i gael bandiau newydd i ddechrau perfformio dros y lle i gyd. Ond rwy'n rhan o bwyllgor Gŵyl Crymych a ni'n gweld e'n anodd i ffeindo headline acts fel petai.
"Ni 'di colli tipyn o enwau mawr – mae'n job ffeindo yr enwau 'na nawr."
Mae Gwion ap Iago, aelod o'r band Roughion, hefyd o'r farn bod genres gwahanol yn cael blaenoriaeth.
Dechreuodd Gwion a'i gyd-gerddor Steffan Woodcruff greu cerddoriaeth yn 2011. Eu cân gyntaf oedd 'Heddwch a Helynt' a gafodd ei rhyddhau yn 2014.
Dywedodd mai'r ysbrydoliaeth i ddechrau cyfansoddi caneuon electroneg oedd bod "dim digon o gynrychiolaeth o'r gerddoriaeth o'n i'n ei gynhyrchu allan yna".
"Fel DJ, do'dd dim caneuon Cymraeg fel house, drum and bass a techno.
"Ma' 'na lot fwy o gystadleuaeth nawr. Mae'n haws i greu'r gerddoriaeth oherwydd yr offer sydd ar gael."
'Ymestyn y tu hwnt i Gymru'
Bu Gwion yn rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru am y tro cyntaf yn 2016.
Teithiodd ar draws Cymru yn ymweld ag ysgolion a pherfformio i ddisgyblion mewn carafán oedd wedi'i thrawsnewid i fod yn llwyfan ar gyfer DJ.
Dywedodd bod dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn "rili bwysig" yng Nghymru ond hefyd y tu hwnt i'r wlad.
"Dydd Miwsig Cymru oedd y rhai cyntaf i roi dance music ym Maes B fel llwyfan.
"Mae'n rili bwysig yn enwedig nawr ma' nhw 'di ymestyn mas i hyrwyddo fe tu allan i Gymru.
"Dyna be' sy' angen – ma' pobl yng Nghymru yn gwybod am gerddoriaeth Cymraeg ond mae'r ffaith ma' nhw nawr yn branchio mas i lefydd tu hwnt i Gymru yn wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Ionawr