Rhai ysgolion yn cynnig gwersi cerdd am ddim am y tro cyntaf ers degawdau

Plant oedran cynradd mewn gwisg ysgol  yn cael gwers cerdd. Mae un ferch yn cydio mewn ffidil a bwa ac mae sgôr cerddorol ym mlaen y llun.
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder ers sbel ynghylch effaith toriadau ariannol ar wersi cerdd mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Mae plant yn cael mynediad at wersi cerddoriaeth am ddim mewn rhai ysgolion am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, fel rhan o ymdrech i wrthdroi'r dirywiad mewn gwersi cerddoriaeth.

Mae'n ofynnol i ysgolion ddysgu cerddoriaeth fel rhan o'u cwricwlwm, ond mae ysgolion ar draws Prydain wedi gweld gostyngiad yn y ddarpariaeth dros y blynyddoedd wrth i'r gyllideb gael ei thorri.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd buddsoddiad pellach nes 2028, gyda £12m wedi ei glustnodi ar gyfer parhau gyda'r ddarpariaeth am y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard o'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol bod yr arian yn "rhyddhad", ond y byddai'n cymryd amser i adfer effaith blynyddoedd o doriadau.

Fe gafodd Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ei sefydlu yn 2022 i geisio cefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddoriaeth ac i ddysgu chwarae offerynnau, gyda'r canlyniadau yn dechrau dangos.

Ym Mhowys, mae'r cyllid wedi galluogi'r cyngor sir i ailsefydlu gwasanaethau cerddoriaeth am y tro cyntaf ers degawdau.

Mae plant yn Ysgol Sant Mihangel, yng Ngheri ger Y Drenewydd, wedi elwa o'r prosiect ac mae'r ysgol yn gallu dechrau cynnig gwersi am ddim am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd.

Mae Mali wedi bod yn dysgu chwarae'r fiola ers blwyddyn ac yn disgrifio'r gwersi fel "llawer iawn o hwyl".

Y ffidil yw offeryn Ffion. Dywedodd: "Unwaith i fi ddechrau dysgu, doeddwn i methu stopio chwarae."

Mali a Ffion - dwy ferch oedran cynradd mewn gwisg ysgol sy'n gwenu wrth edrych tua'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Mali a Ffion - dau o'r disgyblion yn Ysgol Sant Mihangel sy'n mwynhau dysgu chwarae offeryn

Ym Mhowys, mae'r tair blynedd gyntaf o gyllid wedi arwain at adfywiad mewn gwasanaethau cerddoriaeth y cyngor, sydd yn ei dro wedi rhoi sesiynau 'profiad cyntaf' i filoedd o ddisgyblion ar offeryn cerdd.

Dros y blynyddoedd, mae diffyg cyllid wedi bod ar gael ar gyfer prynu adnoddau a ffioedd dysgu.

Gobaith y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yw gwrthdroi hynny gydag amser.

Mae'r bwlch wedi tyfu mewn ardaloedd difreintiedig, gyda llai o gyfleoedd yn cael eu cynnig mewn ardaloedd tlotach i blant ymuno â gweithgareddau fel cerddorfa'r ysgol.

Lynsey McCrohon o Gyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol wedi ariannu amrywiaeth o gorau a grwpiau cerddorol, medd Lynsey McCrohon o Gyngor Powys

Mae'r Cynllun Cerdd Cenedlaethol wedi bod yn "rhodd" i ddisgyblion ac ysgolion Powys, yn ôl Lynsey McCrohon, arweinydd strategol ar gyfer cerddoriaeth a'r celfyddydau mynegiannol i Gyngor Powys.

"Mae pob plentyn mewn ysgol gynradd ym Mhowys yn cael cynnig wyth wythnos o wersi wedi'u hariannu," meddai.

"Mae cyfres o wersi blasu ar gael i ysgolion lle mae unrhyw blentyn yn yr ysgol yn gallu cael gafael ar offeryn a rhoi cynnig arni.

"Yn ogystal, mae 'na arian ar gael ar gyfer ensembles felly mae'r Cynllun Cerdd Cenedlaethol wedi ariannu corau meibion, grwpiau recorder, grwpiau chwythbrennau, bandiau jazz a cherddorfeydd llinynnol ar draws Powys.

"Mae mynediad hefyd at yr ystorfa genedlaethol o offerynnau fel y bod plant yn gallu cael offeryn i fynd adref, yn rhad ac am ddim."

Dau blentyn oedran cynradd yn chwarae'r ffidil fel rhan o wers cerdd
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yw adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi digwydd ers ei sefydlu yn 2022

Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol Cymru ac ystod eang o bartneriaid i gefnogi'r ddarpariaeth.

Dywed y gwasanaeth y bydd y cyllid newydd yn caniatáu i wasanaethau cerddoriaeth barhau, sydd, yn ôl y cydlynydd cenedlaethol Mari Lloyd Pritchard, yn "braf ac yn rhyddhad".

Ychwanegodd: "Mae gwasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru wedi gweithio'n ddiflino dros y tair blynedd ddiwethaf i gynnig cyfleoedd addysg gerddoriaeth rhagorol i blant a phobl ifanc ym mhob sir ledled Cymru, ac rydym yn mynd yn gyffrous bob dydd wrth weld canlyniadau ysbrydoledig y gwaith hwn.

"Mae'n mynd i gymryd amser i'w adfer, ac ochr yn ochr gydag un allan o'm tri phartner allweddol a hynod o gefnogol, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini hanfodol sydd wedi sicrhau llwyddiannau ers 2022."

Pynciau cysylltiedig