Gwrthod cais am adolygiad barnwrol yn achos sgowt, 16, fu farw

Ben LeonardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Leonard wedi derbyn ei ganlyniadau TGAU ddyddiau cyn y digwyddiad ym mis Awst 2018

  • Cyhoeddwyd

Mae cais i wyrdroi dyfarniad o farwolaeth anghyfreithlon yn achos sgowt 16 oed a ddisgynnodd ar fynydd yng ngogledd Cymru wedi methu.

Bu farw Ben Leonard wedi iddo gael anaf difrifol i'w ben pan ddisgynnodd 200 troedfedd oddi ar glogwyni'r Gogarth yn Llandudno ar 26 Awst, 2018.

Daeth y rheithgor yn y cwest y llynedd i'r casgliad fod dau o arweinyddion y grŵp o sgowtiaid yn gyfrifol am y farwolaeth.

Yn dilyn gwrandawiad ym mis Rhagfyr, cafodd y cais am adolygiad barnwrol ei wrthod.

Roedd Ben Leonard ar daith ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport pan fu farw ym mis Awst 2028.

Bwriad gwreiddiol y grŵp oedd cerdded i gopa'r Wyddfa, ond bu'n rhaid newid y cynlluniau oherwydd y tywydd, felly fe aeth y grŵp ar daith i Landudno i gerdded ar y Gogarth.

Clywodd y cwest i'w farwolaeth bod Ben a dau aelod arall o'r grŵp wedi mynd ar drywydd gwahanol i weddill y sgowtiaid, a'i fod wedi llithro oddi ar ymyl y clogwyn.

Bu farw yn y fan a'r lle ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ben.

Y Gogarth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Reddish Explorer Scouts yn cerdded ar Y Gogarth pan ddisgynnodd Ben Leonard i'w farwolaeth

Yn yr adolygiad barnwrol ym Manceinion, roedd cyfreithwyr ar ran arweinydd y grŵp sgowtiaid, Sean Glaister a'r dirprwy arweinydd, Mary Carr yn dadlau na ddylai'r opsiwn i ddyfarnu marwolaeth anghyfreithlon fod wedi bod yn bosib.

Rodden nhw'n honni fod Crwner Cynorthwyol gogledd-ddwyrain Cymru, David Pojur, wedi gwneud camgymeriad drwy ganiatáu dyfarniad o'r fath.

Dywedodd y cyfreithwyr nad oedd unrhyw dystiolaeth y dylai Mr Glaister fod wedi bod yn ymwybodol o "beryg amlwg a gwirioneddol o farwolaeth".

"Yn syml, doedd ganddo ddim syniad eu bod nhw mewn sefyllfa mor beryglus," meddai'r cyfreithiwr, "ac mae'r penderfyniad i ganiatáu dyfarniad o'r fath yn "afresymol ac yn anghyfreithlon".

Roedden nhw'n dadlau hefyd na allai'r arweinwyr fod wedi gwybod y byddai'r bechgyn yn mynd mor agos at ymyl y clogwyn.

Yn y gwrandawiad ddydd Iau, dywedodd Mr Ustus Fordham y byddai rheithgor oedd wedi cael eu harwain yn gywir wedi gallu dod i'r casgliad y cafodd ei ladd yn anghyfreithlon.

Ychwanegodd nad oedd y cyfarwyddiadau cyfreithiol a gafodd eu rhoi i'r rheithgor yn anghywir, yn ei farn ef, a chafodd y ddau gais am adolygiad barnwrol eu gwrthod.

Dywedodd Cymdeithas y Sgowtiaid, wnaeth gydnabod mai nhw oedd ar fai am farwolaeth Ben Leonard yn ystod y cwest, mai diogelwch a lles pobl ifanc yn eu gofal yw eu "prif flaenoriaeth".

"Wnaethom ni ddim gofyn am yr adolygiad barnwrol gafodd ei gynnal yn Rhagfyr 2024, na chwaith wedi talu ffioedd cyfreithiol yr arweinwyr wnaeth eu ceisiadau."

Ychwanegodd y gymdeithas eu bod nhw wedi "ymroi yn llwyr" i barhau i weithredu ar sail yr argymhellion gafodd eu cynnwys yn adroddiad y crwner y llynedd.

"O ganlyniad i'r gwaith yma ry'n ni eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol er mwyn gwella ein prosesau a'n polisïau diogelwch," ychwanegodd y gymdeithas.

Pynciau cysylltiedig