'Angen datganoli cyfiawnder er lles diogelwch menywod'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli trosedd a chyfiawnder er mwyn gwella diogelwch menywod yng Nghymru.
Wrth siarad ar raglen Woman's Hour BBC Radio 4, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod taclo trais yn erbyn merched yn flaenoriaeth i'r blaid.
Ond mae Yvette Cooper, Ysgrifennydd Cartref cysgodol Llafur y DU, wedi gwrthod y syniad o ddatganoli plismona i Gymru - safbwynt sy'n cyferbynnu ag un Llywodraeth Lafur Cymru.
Pwysleisiodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig eu bod "wedi recriwtio bron i 1,000 o swyddogion heddlu ychwanegol ar gyfer Cymru ac 20,000 ar draws Cymru a Lloegr".
Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth yr angen i'r heddlu gael adnoddau i ddelio â cham-drin domestig ac am system gyfiawnder sy'n "gwbl gefnogi menywod pan maen nhw'n canfod eu hunain mewn sefyllfa o gam-drin domestig".
“Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ac mae ein hanes o Aelodau Seneddol yn San Steffan yn blaenoriaethu hyn yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono.”
Galwodd Mr ap Iorwerth hefyd am "gyllid teg gan San Steffan sy'n ariannu Cymru yn ôl ei hangen" er mwyn delio â'r materion sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
“Fe allwn ni wedyn ddechrau mynd i’r afael â’r elfennau hynny mewn iechyd rydyn ni wedi bod ar ei hôl hi.”
'Hyder ein bod yn newid'
Wrth gael ei holi am ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth yn y blaid, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod pob un o'r 82 argymhelliad o Brosiect Pawb wedi eu gweithredu.
“Mae hynny’n rhoi’r hyder i mi ein bod yn newid, ein bod wedi cymryd o ddifrif yr angen i bobl weld ein bod yn newid fel plaid.
“Yr hyn rydw i eisiau ei wneud yw arwain proses barhaus sy’n dangos fy mod o ddifrif ynglŷn â’r ffordd yr oeddem yn cael ein gweld."
Mae'n cyfaddef i'w fethiant ei hun i weld problemau yn y blaid yn y gorffennol, ond mae'n dweud bod "pobl nawr yn dweud wrtha i fod y blaid yn teimlo'n wahanol, bod y blaid yn teimlo'n ddiogel".
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cartref cysgodol Llafur y DU wedi gwrthod y syniad o ddatganoli plismona i Gymru.
Dywedodd Yvette Cooper ei bod yn bwysig “cadw’r cysylltiadau” o amgylch plismona a throsedd ar draws Cymru a Lloegr.
Mae ei safbwynt yn cyferbynnu â safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona.
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
Pan ofynnwyd iddi a fyddai Llafur yn trosglwyddo pwerau dros blismona o San Steffan i Gaerdydd pe bai’n ennill yr etholiad cyffredinol, dywedodd Ms Cooper wrth y BBC: “Mae angen i ni gadw’r cysylltiadau o amgylch plismona a throsedd ar draws Cymru a Lloegr.”
“Yn anad dim oherwydd yng ngogledd Cymru mae’n amlwg bod cysylltiadau cryf o ran yr hyn sy’n digwydd yng Nglannau Mersi yn cael effaith ar ogledd Cymru, ac ati.
"Felly mae'n rhaid i chi gael yr holl berthnasoedd agos hynny rhwng heddluoedd."
Ychwanegodd: “Rydyn ni wir eisiau gweld partneriaeth gryfach rhwng heddluoedd oherwydd rydyn ni’n gwybod mai dyna yw'r ffordd orau.”
Wrth grynhoi polisi Llafur y DU, dywedodd Ms Cooper: “Os oes gennym ni lywodraeth Lafur yn cael ei hethol byddai gennym ni bartneriaeth gref rhwng llywodraeth Lafur yn San Steffan a llywodraeth Lafur yng Nghymru a dyna dwi’n meddwl allai wneud y gwahaniaeth mwyaf ar draws Cymru oherwydd ein bod ni heb gael hynny."
'Blaenoriaethau'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod angen canolbwyntio ar "y gwaith bob dydd... clirio’r ôl-groniad o 20,000 o bobl sy’n aros dwy flynedd am driniaeth yn y GIG yng Nghymru, rhoi diwedd ar y siawns 50/50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd mewn pryd a chael gwared ar eu terfyn cyflymder 20mya.
"Ers 2019, rydym wedi recriwtio bron i 1,000 o swyddogion heddlu ychwanegol ar gyfer Cymru ac 20,000 ar draws Cymru a Lloegr.
"Cymharwch hynny â Llafur a addawodd i beidio â thorri nifer y swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (PCSOs) yng Nghymru, ac yna fe wnaeth hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023