Disgwyl cadarnhad mai Eluned Morgan fydd arweinydd Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Lafur Cymru gadarnhau mai Eluned Morgan fydd eu harweinydd newydd ac olynydd i'r Prif Weinidog, Vaughan Gething.
Cafodd Mr Gething ei orfodi i roi'r gorau iddi yr wythnos ddiwethaf ar ôl i bedwar aelod o'i lywodraeth ymddiswyddo ar yr un pryd.
Fe wnaeth y cyfnod lle'r oedd modd enwebu rhywun ar gyfer yr arweinyddiaeth gau am 12:00 ddydd Mercher, a doedd dim disgwyl i unrhyw aelod arall sefyll.
Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi cael cefnogaeth o leiaf 25 o 30 o wleidyddion Llafur Senedd Cymru ac mae'n debygol mai hi fydd y fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.
Roedd Vaughan Gething wedi bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fel prif weinidog ym mis Medi ond fe allai roi’r gorau iddi’n gynt, gan olygu bod angen i Senedd Cymru ddychwelyd o doriad yr haf i gadarnhau ei olynydd.
Mae ffrae am £200,000 a dderbyniodd Mr Gething ar gyfer ei ymgyrch i ddod yn arweinydd gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau amgylcheddol, wedi taflu cysgod dros ei gyfnod byr fel prif weinidog.
Collodd bleidlais o ddiffyg hyder ar ôl i ddau o’i aelodau o'r Senedd fethu â’i gefnogi, ac roedd dan ragor o bwysau ar ôl iddo ddiswyddo ei weinidog, Hannah Blythyn.
Dim ond am 118 diwrnod y bu wrth y llyw cyn cyhoeddi y byddai'n rhoi'r gorau i'r swydd.
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
Pan ymunodd Ms Morgan â Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd y bumed fenyw o Gymru i gael ei hethol i unrhyw senedd.
Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.
Am bymtheg mlynedd ar ôl hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.
Yn 2011 fe gafodd ei dyrchafu’n aelod o Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drelái, a bu’n llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Senedd San Steffan, cyn cael ei hethol i Senedd Cymru yn 2016 dros etholaeth ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Ers hynny, mae hi wedi cyflawni cyfres o swyddi fel gweinidog, cyn cael ei phenodi’n weinidog iechyd yn 2021, yng nghanol y pandemig.
Mi wnaeth hi sefyll am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2018, gan golli i Mark Drakeford.
Mae Ms Morgan, a gefnogodd Mr Gething yn yr ornest ddiwethaf i ddod yn arweinydd, wedi addo uno'r grŵp Llafur.
Mae hi wedi dweud y bydd yn penodi Huw Irranca-Davies, a gefnogodd Jeremy Miles ar gyfer y swydd yn gynharach eleni, yn ddirprwy iddi.
Mae unrhyw un sy'n gobeithio cynnig eu henwau angen cefnogaeth o leiaf pump AS arall, neu dau AS a chefnogaeth ymhlith grwpiau a sefydliadau llafur llawr gwlad.
Mae Ms Morgan eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan o leiaf 25 o Aelodau o'r Senedd.
Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn galw am etholiad i Senedd Cymru.
Dywedodd: “Eluned Morgan fydd y trydydd arweinydd Llafur yng Nghymru mewn tri mis.
“Fe wyddai, er mwyn i Lywodraeth Cymru gael mandad mewn amgylchiadau o’r fath, fod angen etholiad newydd, fel y galwodd Llafur eu hunain amdano pan welwyd newidiadau arweinyddiaeth olynol yn Llywodraethau’r DU a’r Alban."
Beth sy'n digwydd ar ôl heddiw?
Mae angen pleidlais ffurfiol ar lafar yn y Senedd cyn i’r prif weinidog newydd gael ei gadarnhau.
Gydag un ymgeisydd yn unig hyd yma, gallai Mr Gething roi'r gorau iddi yn gynt na'r disgwyl - gan olygu bod angen galw'r Senedd yn ôl o doriad yr haf.
Cafodd BBC Cymru wybod yn gynharach yn yr wythnos fod trafodaethau wedi digwydd rhwng swyddfa'r prif weinidog, Llafur Cymru a'r Senedd.
Byddai angen i'r Senedd gael cais gan Lywodraeth Cymru i alw'r Senedd yn ôl.
Er y byddai cais o'r fath yn cael ei ganiatáu, nid yw cynlluniau llawn yn cael eu gwneud eto ac nid oes dyddiad ar gyfer galw aelodau yn ôl.
Mae'r bleidlais yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o'r Senedd ddweud ar lafar pwy ddylai fod yn brif weinidog yn eu barn nhw, ac mae rhai ohonynt ar wyliau dramor ar hyn o bryd.
Mewn egwyddor fe allai'r wrthblaid, gydag union hanner y niferoedd yn y Senedd, atal Ms Morgan rhag cael ei chadarnhau trwy gefnogi un ymgeisydd.
Ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd a bydd gan Lafur y niferoedd i gael cadarnhad o'u prif weinidog newydd.
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu ymatal, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn bwriadu enwebu eu harweinwyr eu hunain.