Mwy o bensiynwyr yn hawlio budd-dal wedi ymgyrch

Menyw hyn yn edrych ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Janette yn hawlio credyd pensiwn ar ôl clywed amdano ar y teledu.

  • Cyhoeddwyd

Ers mis Ionawr mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn dweud wrth bensiynwyr a ydyn nhw'n gymwys am gredyd pensiwn ai peidio.

O ganlyniad, mae henoed yr ardal wedi derbyn bron i £250,000 mewn budd-daliadau ychwanegol.

Y gaeaf hwn, bydd y mwyafrif o bensiynwyr yn colli lwfans tanwydd - oni bai eu bod yn derbyn credyd pensiwn.

Ond mae credyd pensiwn yn fudd-dal sy'n aml yn mynd heb ei hawlio.

Mae Policy in Practice, sy'n gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, yn dweud bod targedu pensiynwyr cymwys "ddwy i dair gwaith yn fwy effeithiol" wrth sicrhau bod pobl yn hawlio'r credyd.

Ar hyn o bryd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn annog pensiynwyr i wirio a ydyn nhw'n gymwys mewn ymgyrchoedd cyffredinol.

Gallwch hawlio credyd pensiwn os ydych chi'n derbyn y pensiwn gwladol ac ar incwm isel.

Dechreuodd Janette, sy'n 80 ac o'r Creunant yng Nghastell-nedd Port Talbot, hawlio'r credyd ar ôl clywed amdano ar raglen deledu.

"Ro'n i'n meddwl y gallen i fod yn gymwys felly edryches i mewn iddo fe ac ro'n i.

"Dwi ddim yn cael llawer bob mis ond mae werth e am y manteision sy'n dod gyda fe."

Ei neges i'r rhai sydd efallai'n gymwys yw i "fynd amdani".

"Does ganddoch chi ddim i'w golli. Trïwch amdano fe, mae'n ddigon syml."

Rachael Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachael Walker yn dweud mai targedu pensiynwyr yn unigol yw'r ffordd i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn derbyn y credyd pensiwn

Amcan Adran Gwaith a Phensiynau, dolen allanol Llywodraeth y DU yw bod 880,000 o bensiynwyr sy'n gymwys am y credyd pensiwn ond sydd ddim yn ei hawlio.

Felly fe fyddan nhw'n colli'r cyfle i gael y lwfans tanwydd y gaeaf hwn, yn ogystal â nifer o fudd-daliadau eraill.

Yng Nghymru, mae oddeutu £117m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio eleni.

Ond nid gofyn i bensiynwyr edrych i weld a ydyn nhw'n gymwys yw'r ffordd fwyaf effeithiol i annog hawlio credyd pensiwn, yn ôl Rachael Walker o Policy in Practice.

"Mae ymgyrchoedd lleol wir yn targedu a chanfod y bobl yna rydyn ni'n gwybod trwy'r data sy'n gymwys," meddai.

"Beth ry'n ni'n gwneud gyda'r ymgyrchoedd lleol yw cymryd y cyfrifo yn y pen i ffwrdd, a'r ofn y gallai rhywun ymgeisio a chael ei wrthod."

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn rhedeg yr ymgyrch ers mis Ionawr.

Yn y saith mis cyntaf mae 73 o gartrefi wedi cael £232,326 yn ychwanegol mewn credyd pensiwn, yn ogystal â bod yn gymwys am £14,600 mewn lwfans tanwydd.

"Rydyn ni'n credu ei fod wedi bod yn ddechrau da, ond dim ond y dechrau yw hyn," meddai'r Cynghorydd Simon Knoyle, aelod o'r cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol.

"Ry'n ni'n gobeithio dod o hyd i fwy o bobl sy'n gymwys a heb hawlio eto er mwyn eu harwain i'r cyfeiriad cywir i gael y budd-daliadau yna."

Y cynllun yn 'fan cychwyn'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Alun Llewelyn, fod "73 o deuluoedd neu unigolion" wedi cael help drwy'r cynllun gan y cyngor.

"Fi'n gweld hwn fel man cychwyn," meddai gan ychwanegu fod y cyngor "am barhau â'r gwaith yma a hybu ymwybyddiaeth ohono fe, a ni'n gobeithio y gallwn ni helpu llawer llawer mwy."

Dywedodd fod "bron chwarter miliwn o bunnoedd wedi ei glustnodi i helpu'r teuluoedd hynny yn barod" ond roedd o'r farn fod nifer o deuluoedd ac unigolion "ddim yn sylweddoli bod nhw'n gymwys i hawlio credyd pensiwn".

"Os ni'n gallu helpu nhw i gael y credyd pensiwn, mae hwnna'n gyfystyr â thua £65 yr wythnos, sy'n £4,000 y flwyddyn - ffigwr sylweddol," meddai.

Wrth annog cynghorau eraill i ddilyn yr un drefn, gobaith y cyngor yw sicrhau fod mwy o deuluoedd a phensiynwyr yr ardal yn manteisio ar y cynllun.

Katrin Shaw yn edrych ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim byd i'w golli o wneud cais," meddai Katrin Shaw o elusen Age Connects

Gyda biliau ynni ar gynnydd, mae Age Connects yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gefnogol o'r ymgyrch.

Maen nhw'n annog pensiynwyr i ddod atyn nhw i gael cymorth gyda'r ffurflenni i wneud cais am gredyd pensiwn.

"Does dim byd i'w golli o wneud cais gyda aelod o’n staff ni," eglura Katrin Shaw, un o ymddiriedolwyr yr elusen.

"Mae’n bosib bod hawl i bobl gael y credyd pensiwn ac efallai bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros y gaeaf."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod yn cydweithio ag awdurdodau lleol i annog pensiynwyr i wirio a ydyn nhw'n gymwys am y credyd pensiwn ac i wneud cais.

Maen nhw wedi gweld "cynnydd o 115%" yn yr hawliadau, bum wythnos ar ôl i'r Canghellor gyhoeddi newidiadau i daliadau tanwydd y gaeaf.

Maen nhw'n annog "unrhyw un sy'n meddwl eich bod yn gymwys i hawlio credyd pensiwn" i wirio hynny nawr.

Y dyddiad olaf i hawlio credyd pensiwn a bod yn gymwys am y lwfans tanwydd hefyd yw 21 Rhagfyr.

Gallwch wirio a ydych chi'n cael yr holl fudd-daliadau sydd ar gael i chi trwy gysylltu â llinell gymorth Advice Link Cymru, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig