Penodi Deon newydd i Gadeirlan Bangor ar ôl adroddiadau beirniadol

Mi fydd Dr Manon Ceridwen James yn dechrau yn ei rôl newydd fel Deon ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae Deon newydd wedi cael ei benodi i Gadeirlan Bangor ar ôl i ddau adroddiad beirniadol dynnu sylw at bryderon diogelu a chamymddygiad.
Mi fydd Dr Manon Ceridwen James, gafodd ei magu yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn, yn dechrau yn y rôl ym mis Medi.
Fe ddaw hyn yn dilyn cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan gydag Archesgob Cymru, Andy John, yn ymddeol ar unwaith fis diwethaf yn sgil pryderon am ei esgobaeth.
Dywedodd Dr James y byddai'n ceisio "sicrhau gall pawb unwaith eto ymddiried yng ngweinidogaeth, buchedd a gwasanaeth y Gadeirlan".

Roedd yr adroddiadau yn argymell penodi Deon newydd cyn gynted â phosibl, yn ôl Esgobaeth Bangor
Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
Dyw'r adroddiadau llawn ddim wedi cael eu cyhoeddi yn sgil cyfrinachedd.
Ond roedden nhw'n cynnwys argymhellion, ac yn ôl Esgobaeth Bangor, un ohonynt oedd penodi Deon newydd cyn gynted â phosibl.
Ar hyn o bryd mae Dr James yn Ddeon Hyfforddiant Gweinidogaethol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant.
Mae'n gyfarwydd â Chadeirlan Bangor, ar ôl cael ei hordeinio'n Ddiacon yno yn 1994 ac yn offeiriad yn 1997.
'Am fynd i'r afael â'r heriau presennol'
Dywedodd Dr James ei bod "yn edrych ymlaen yn eiddgar i gychwyn gweithio efo tîm y Gadeirlan i fynd i'r afael â'r heriau presennol a sicrhau dyfodol gobeithiol a llewyrchus iddi hi."
Mae Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob Llanelwy, Gregory Cameron yn cefnogi'r penodiad: "Rwy'n falch iawn o groesawu Manon i swydd Deon Bangor.
"Mae Manon o Gymru ac o Fangor, ym mêr ei hesgyrn, ac mae'n dod â dawn a thalent sylweddol i'w swydd.
"Mae hyn yn nodi blaendal ar gyfer y dyfodol y mae'r esgobaeth am ei adeiladu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd30 Mehefin