Gwobrwyo'r bobl sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned

enillwyr ar y llwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr y dydd gyda'r cyflwynwyr, Lucy Owen a Caryl Parry Jones a'r beirniaid Aleighcia Scott a Lauren Price

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Sadwrn fe gynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd i anrhydeddu pobl sy'n weithgar a chymwynasgar yn eu cymunedau.

Dyma'r tro cyntaf i BBC Cymru Wales gynnal Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth.

Derbyniodd BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales – sydd wedi bod yn arwain y gwobrau – dros 700 o enwebiadau o bob cwr o Gymru.

Caryl Parry Jones a Lucy Owen gafodd y fraint o wobrwyo'r enillwyr.

Dyma'r wyth ddaeth i'r brig.

Cymydog Arbennig

Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig. Cafodd y categori hwn ei feirniadu gan Owain Wyn Evans, cyflwynydd BBC Radio 2.

Sharon Beck

Yr enillydd oedd Sharon Beck o Fwcle.

Mae Sharon yn rhedeg siop Shaz's Shabby Chic, ond dyw'r bobl sy'n mynd yno ddim o reidrwydd yno i brynu unrhyw beth. Siop digon cyffredin yw hi sy'n gwerthu pob math o nwyddau lleol, ond, yn y cefn mae gofod diogel ac ystafell sy'n cael ei defnyddio gan y gymuned.

Mae'r siop yn gartref i ymarferion corau, clwb gwau, dosbarthiadau amrywiol i blant, gwersi ymarfer corff a chaffi wythnosol i ddynion ddod at ei gilydd os ydyn nhw'n teimlo'n unig.

Darllenwch fwy am waith Sharon Beck yma.

Gwobr Codi Arian

Dyma wobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da. Cafodd y categori hwn ei feirniadu gan y gantores Bronwen Lewis.

Katy ac Emma

Yr enillwyr oedd Katy Yeandle ac Emma Rees.

Mae Katy ac Emma yn rhedeg elusen o'r enw Joseph's Smile. Cafodd yr elusen ei sefydlu er cof am Joseph, mab tair blwydd oed Katy a fu farw o ganser yn 2021.

Mae teulu Joseph wedi codi degau o filoedd o bunnoedd ac wedi helpu nifer o deuluoedd eraill. Wrth siarad â Cymru Fyw yn 2023 dywedodd Katy,

"Mae'n drist iawn achos ddylai dim un teulu godi arian am driniaeth neu gyfarpar sydd ddim ar gael ar [y gwasanaeth iechyd]."

Darllenwch fwy am Joseph's Smile yma.

Gwobr Werdd

Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol. Y naturiaethwr a chyflwynydd, Iolo Williams oedd yn beirniadu yn y categori hwn.

Martin Draper

Yr enillydd oedd Martin Draper.

Un o sylfaenwyr a Chadeirydd On The Verge Wales yw Martin, ef yw'r grym tu ôl y fenter sy'n addysgu, annog a chynnal prosiectau amgylcheddol ymarferol yn ei gymuned yn Nhalgarth.

Yn 2019, dechreuodd ar y gwaith trwy adael i ffiniau gwyrdd lleol dyfu a pheidio'u torri, a hefyd sefydlu Gardd Gymunedol. Mae wedi dod â grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd a chreu'r brand 1 Metre Matters – rhywbeth sy'n cael ei fabwysiadu mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Ei neges yw y gall un fetr yn unig greu cynefin hanfodol sy'n gwella bioamrywiaeth ein gofodau gwyrdd.

Dywedodd y sawl a'i enwebodd, "Mae o'n ganolog i lwyddiant On The Verge. Mae'n gwneud gwahaniaeth nid yn unig drwy wella iechyd ein tirwedd ond drwy annog a chynghori pobl i fod yn fwy bwriadol yn eu hagwedd tuag at y ffordd rydyn ni'n trin byd natur."

Gwobr Anifail

Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu grŵp o bobl; neu, berson neu grŵp o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid. Cafodd y wobr hon ei beirniadu gan y DJ, Katie Owen.

Sion Telor y ci

Yr enillydd oedd Sion Telor y ci.

Border Collie ydi Sion Telor sy'n mynd i ddosbarthiadau Dawns ar Gyfer Parkinson's wythnosol yn Pontio, Bangor.

Mae'n ymwelydd cyson ag Ysbyty Gwynedd, ac wedi'i ddisgrifio fel "tonig" i bobl ar y wardiau.

Darllenwch fwy am Sion Telor yma.

Gwobr Actif

Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned. Beirniadwyd y categori hwn gan y pencampwr bocsio, Lauren Price.

 Robin Jones

Yr enillydd oedd Robin Jones am Farm Fit.

Ffermwr o Sir y Fflint yw Robin Jones a sefydlodd gampfa yn siediau ei fferm. Sefydlodd y busnes nid er elw wedi brwydro â'i iechyd meddwl ei hun a dyhead i gysylltu cymunedau gwledig gyda'i gilydd gan wneud hynny drwy ymarfer corff amgen.

Mae wedi cymhwyso fel hyfforddwr personol ac mae tua 250 o bobl yn dod i hyfforddi gydag ef bob wythnos.

Darllenwch fwy am Robin a Farm Fit yma.

Gwobr Gwirfoddolwr

Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig. Beirniadwyd y categori hwn gan y paralympwraig Olivia Breen.

Shani Stephens

Yr enillydd oedd Shani Stephens o Abertawe.

Sefydlodd Shani Tŷ Fforest Resource Hub yn Abertawe sef hwb sy'n darparu cefnogaeth i bobl mewn angen. Mae Shani yn Gyfarwyddwr gwirfoddol i'r hwb.

Y prif ddarpariaeth yw banc bwyd sy'n rhannu bwyd bob diwrnod o'r wythnos. Mae ei ymroddiad i gynnal yr hwb a chefnogi'r gwirfoddolwyr eraill wedi ysbrydoli sawl person o'i chwmpas.

Dywedodd y sawl a'i henwebodd: "Mae Shani wir yn pledio achos ein cymuned. Mae ganddi fyddin o wirfoddolwyr sy'n ei charu a'i haddoli hi ac mae ei hymroddiad i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, boed hynny drwy'r banciau bwyd neu eirioli dros bobl sydd angen cefnogaeth.

"Mae hi'n un mewn miliwn."

Arwr Ifanc

Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol. Roedd y categori hwn yn cael ei feirniadu gan y gantores a chyflwynydd, Aleighcia Scott.

Skye NevilleFfynhonnell y llun, Skye Neville

Yr enillydd oedd Skye Neville o Fairbourne.

Ymgyrchydd amgylcheddol ifanc o Wynedd yw Skye. Derbyn comics a chylchgronau wedi eu lapio mewn plastig ac â theganau plastig arnyn nhw pan oedd hi'n 10 oed a daniodd y tân ym mol Skye Neville i geisio ymgyrchu dros yr amgylchedd.

Mae hi wedi treulio amser gyda phrosiect cadwraeth crwbanod y môr yn Costa Rica, mae hi'n rhan o ffilm ddogfen newydd gydag ymgyrchwyr amgylcheddol ifanc eraill, ac mae pobl o bob cwr o'r byd yn gwybod am ei stori yn ceisio brwydro'n erbyn llygredd plastig.

Darllenwch am waith arbennig Skye yma.

Grŵp Cymunedol

Dyma wobr i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned. Noddwyd y wobr hon gan Morning Live a'r cyflwynydd Gethin Jones oedd y beirniaid.

Eirian Williams Roberts, un o sylfaenwyr Maes-G ShowZone
Disgrifiad o’r llun,

Eirian Williams Roberts, un o sylfaenwyr Maes-G ShowZone

Yr enillydd oedd MaesG Show Zone o Fangor.

Grŵp cymunedol, cynhwysol i blant ym Maesgeirchen, Bangor yw Maes-G ShowZone sy'n rhoi cyfle iddynt brofi'r celfyddydau perfformio. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2020 gan Eirian Williams Roberts, ei gwraig, Steffi a ffrind iddynt, Naomi.

Maesgeirchen yw'r drydedd stâd dai fwyaf yng Nghymru gyda thua 4,000 o bobl yn byw yno.

Yr hyn a ysgogodd sefydlu'r grŵp oedd gallu cynnig lle i blant Maesgeirchen gymdeithasu yn ystod y cyfnod clo er mwyn lleihau'r ymdeimlad o "fod ar ben eu hunain."

Darllenwch am waith da Maes G Show Zone yma.

Llongyfarchiadau mawr i'r holl enillwyr.

Gallwch glywed ymatebion yr enillwyr a holl uchafbwyntiau'r seremoni ar raglen Bore Cothi ddydd Llun, a rhaglen Caryl nos Lun ar BBC Radio Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.