'Trefn newydd yn anwybyddu bod mwy o ffermydd y pen yng Nghymru'
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn bryderus am y newidiadau i reolau cymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
O'r blaen roedd y cymorth yn cael ei ariannu drwy'r Undeb Ewropeaidd ar sail anghenion ond mae fformiwla newydd yn golygu y bydd yr arian nawr yn cael ei ddyrannu yn ôl poblogaeth.
Yn ôl yr undeb mae hyn yn ostyngiad o 9.2% i 5.2% ac mae hynny, medd Prif Weithredwr UAC, Guto Bebb yn gofyn a fydd ffermydd yn gallu bod yn gynaliadwy.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu dros £366m ar gyfer cymorth amaethyddol eleni.