Pam bod dyn o Fangor yn dringo'r Wyddfa fel Spiderman 100 gwaith?
Mae dyn o Fangor yng nghanol sialens i ddringo mynydd uchaf Cymru 100 o weithiau, a hynny wrth wisgo gwisg Spiderman.
Mae Dylan Hughes yn dringo'r Wyddfa er mwyn codi arian at elusen Tŷ Gobaith.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Mr Hughes iddo benderfynu gwisgo'r wisg arbennig er mwyn sefyll allan wrth gwblhau'r sialens.
Dywedodd: "O'n i'n meddwl ma' rhaid fi 'neud bach o wahaniaeth yn mynd fyny'r mynydd i bobl sylwi mod i'n 'neud o i achos pwysig."
Ag yntau wedi bod wrthi'n gwneud sawl sialens yn y gorffennol yn codi arian at wahanol elusenau, dywedodd ei fod eisoes wedi dringo'r Wyddfa 56 o weithiau yn y wisg.
"Dwi jyst yn cl'wad pob man rownd Yr Wyddfa, 'sbia Spiderman'... ma' pobl yn dechra 'nabod fi 'wan pan dwi'n cerdded i fyny, ac maen nhw'n gweiddi enw fi a thynnu lluniau.
"Mae'n bleser rhoi o ar, i weld wynebau pawb a'r plant ac mae mor bwysig i gadw pawb yn hapus."