Stordai cwmni Leekes ar dân yn yr oriau man
Mae dau o stordai cwmni Leekes yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu dinistrio mewn tân mawr dros nos.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad yn Nhonysguboriau am 02:31 fore Gwener yn dilyn adroddiadau o dân ger un o siopau'r cwmni gwerthu nwyddau i'r cartref.
Roedd nifer o griwiau tân, a thua 60 o swyddogion yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad, ac roedd y fflamau wedi eu diffodd erbyn tua 05:00.