'Fydden ni ddim mewn ysgol ddrama heb y conservatoire i bobl ifanc'

Cymru bellach yw’r unig wlad yn y DU heb raglen arbenigol i blant a phobl ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa ym myd perfformio.

Daw hynny wedi i’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yng Nghaerdydd roi’r gorau i gynnal sesiynau canu ac actio i bobl ifanc yn sgil heriau ariannol sylweddol.

Rhaglen conservatoire y coleg oedd yr unig un o’i fath yng Nghymru - roedd yn darparu hyfforddiant a llwybrau hanfodol i yrfaoedd cerddoriaeth a drama proffesiynol i berfformwyr ifanc.

Mae yna bryderon y bydd llai o gantorion ac actorion proffesiynol yng Nghymru o ganlyniad i’r penderfyniad, ond dywed CBCDC nad oedd dewis arall yn sgil costau gweithredol cynyddol.

Mae Nansi Rhys Adams yn enillydd cenedlaethol cyson ac wedi perfformio yn y West End. Mae hi bellach yn fyfyrwraig yn ysgol ddrama Mountview Academy of Theatre Arts yn Llundain.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: “Fi’n meddwl bod e’n golled fawr. Cymru nawr fydd yr unig le lle na fydd conservatoire sy’n helpu pobl i gael fewn i ysgol ddrama.

“Mae hynny’n golled fawr i Gymru achos ni’n wlad sy’n hoffi canu.

“Dwi ddim yn gwybod be ‘sen i wedi 'neud heb yr help yn y Coleg Cerdd a Drama.”

Mae Osian Davies sydd yn fyfyriwr ail flwyddyn yn ysgol ddrama y Bristol Vic yn cytuno.

“Fi’n drist iawn ein bod ni wedi colli yr adran iau yn y Coleg Cerdd a Drama,” meddai.

“Dwi yn yr ail flwyddyn yn Bristol Vic a fydden i ddim wedi cyrraedd ‘ma heb sesiynau penwythnos y Coleg Cerdd a Drama."