Sgrechian mewn digwyddiad tân gwyllt yn Sir Gâr
Mae rhieni'n dweud bod eu plant wedi “dychryn” ar ôl i dân gwyllt saethu i gyfeiriad y dorf mewn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin nos Fawrth.
Roedd plant yn sgrechian, meddai pobl leol, wrth i’r gwreichion “dasgu tuag at a dros y dorf” yn Neuadd Mynyddygarreg ger Cydweli.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am tua 19:30 ond doedd dim angen i griw fynychu.
Mae'r trefnwyr wedi cael cais am sylw.