Uno gwaith fforensig i arbed £1m i'r heddlu
- Cyhoeddwyd
Bydd dau o heddluoedd Cymru yn cydweithio ar eu gwaith fforensig mewn ymgais i arbed £1m o arian cyhoeddus.
Yn ôl Heddluoedd De Cymru a Gwent, bydd hyn yn arbed amser dadansoddi ac yn galluogi datblygiadau mewn technoleg.
Mae'r uned newydd wedi'i lleoli ar ddau safle - ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng ngorsaf heddlu Rhymni yng Nghaerdydd.
Daw'r uno wedi i Lywodraeth Prydain gyhoeddi ym mis Hydref 2010 y byddai yna ostyngiad o 20% yng nghyllid yr heddlu.
Dywed Heddlu Gwent bod yn rhaid iddynt wneud arbedion o £34m erbyn 2016, tra bod Heddlu De Cymru'n gorfod arbed £47m dros yr un cyfnod.
Bydd yr uned newydd yn cyflogi 160 o staff - 110 o Heddlu De Cymru a 50 o Went.
Dywedodd llefarydd nad oedd unrhyw un wedi cael ei ddiswyddo wrth greu'r uned.
Yn ôl Ian Brewster, fydd yn arwain yr uned newydd, bydd yr offer a'r adnoddau yn eu galluogi i ddarparu sgiliau a gwasanaethau sydd ddim ar gael ar hyn o bryd ymhlith nifer o heddluoedd eraill.
Cyffuriau
Byddai'r ddau lu yn arbed trwy rannu adnoddau, gan gynyddu'r amrywiaeth o wasanaethau ar gael, meddai.
Byddai hefyd modd arbed arian gan na fyddai angen defnyddio cwmnïau o'r tu allan i brofi cyffuriau, gwydr ac esgidiau.
"Bydd yr uned newydd hon yn arbed dros £1m drwy resymoli swyddi mewn un uned ar y cyd a chadw'r gwaith o brofi deunydd fforensig o fewn yr heddlu," meddai Mr Brewster.
"Fyddwn ni ddim angen anfon cyffuriau i Lundain i gael eu profi, fydd yn arbed arian ac amser, gan olygu fod ein swyddogion yn gallu cyhuddo troseddwyr yn sydyn yn hytrach na'u gollwng yn ôl i'r gymuned ar fechnïaeth."
Hon fydd yr unig uned o'i bath yn y DU fydd yn gallu cynnal profion ar wydr, fydd yn cynnwys profi darnau man o wydr wedi'i dorri ar gyfer tystiolaeth fforensig.
Gwydr
Bydd hefyd yn cynnwys uned sy'n gallu casglu olion bysedd o arwynebau llyfn, fel bagiau plastig a gwydr. Dim ond tair uned o'r fath sydd yn y DU ar hyn o bryd.
Dywedodd Mr Brewster fod nifer o droseddau, fel lladradau o dai a cheir, yn arwain at wydr yn cael ei dorri.
"Bydd y labordy newydd yn sicrhau fod modd dadansoddi'r gwydr o fwy o droseddau, gan olygu fod mwy o droseddwyr yn cael eu herlyn yn llwyddiannus."
Ychwanegodd Mr Brewster y byddai swyddogion hefyd yn gallu anfon olion bysedd yn syth i'r uned ym Mhen-y-bont, gan leihau'r amser prosesu o chwe diwrnod i ddwy awr.
Yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Matt Jukes o'r uned, bydd y gwasanaeth yn gallu darparu gwyddoniaeth fforensig sy'n addas i'r 21ain ganrif.
"Trwy gydweithio, rydym yn gallu prosesu canlyniadau'n gyflymach wedi troseddau, gan arwain at arestio ac erlyn troseddwyr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011