Pontydd Hafren: Rhoi'r gorau i gynllun gweithio i reol
- Cyhoeddwyd
Mae staff sy'n casglu tollau ar ddwy bont Hafren wedi rhoi'r gorau i'w bwriad i weithio i reol o ddydd Mawrth nesaf.
Ond mae cynlluniau i gynnal streic 24 awr ar ddechrau Gŵyl y Banc y penwythnos nesaf yn dal ar y gweill.
Er hynny mae swyddogion undeb Unite yn dweud eu bod yn hyderus eu bod yn agos i ddod i gytundeb â chwmni Croesfannau Afon Hafren.
Mae Croesfannau Afon Hafren wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.
Streic
Bydd y trafodaethau yn ail-ddechrau'r wythnos nesaf.
Ym mis Gorffennaf pleidleisiodd tua 70 o staff o blaid gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd ffrae am newid shifftiau.
"Cynigiodd y cwmni newidiadau i shifftiau ond doedd dim cydbwysedd rhwng gwaith ac ansawdd bywyd y tu allan i'r gwaith," meddai swyddog rhanbarthol yr undeb, Jeff Woods:
"Rydyn ni a'r cwmni yn hyderus ein bod yn agos i daro cytundeb yn dilyn cyfarfod positif heddiw.
"Mae ein bwriad o weithredu'n ddiwydiannol, gwahardd gweithio oriau ychwanegol a gweithio i reol o ddydd Mawrth wedi cael eu gohirio gan obeithio y byddwn ni'n datrys yr anghydfod erbyn dydd Mercher."
Ychwanegodd fod y cynllun i gynnal streic ar Ddydd Gwener 24 Awst yn dal mewn lle.
Nid oedd unrhyw un o gwmni Croesfannau Afon Hafren ar gael i wneud sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2012
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2012