Dim streic gan weithwyr pontydd Hafren
- Cyhoeddwyd
![Ail Groesfan Hafren [Llun: Terry Winter]](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/61977000/jpg/_61977356__58588210_secondsevern-1.jpg)
Mae'r cwmni wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.
Mae undeb Unite wedi gohirio streic 24 awr ar dollau pontydd Hafren.
Roedd disgwyl i'r streic gychwyn bore Gwener.
Mae'r undeb yn dweud eu bod wedi dod i gytundeb gyda chwmni Croesfannau Afon Hafren.
Ond mae disgwyl mwy o drafodaethau.
Mae'r anghydfod yn ymwneud â shifftiau newydd sydd wedi eu disgrifio gan yr undeb fel rhai fydd yn "amharu ar y balans bywyd a gwaith".
Ym mis Gorffennaf pleidleisiodd tua 70 o staff o blaid gweithredu'n ddiwydiannol.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth staff sy'n casglu tollau ar y ddwy bont roi'r gorau i'w bwriad i weithio i reol o ddoe ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Awst 2012
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol