Comisiynydd: Ymholiad i wasanaethau gofal sylfaenol
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd ei ymholiad statudol cyntaf yn canolbwyntio ar y defnydd o'r Gymraeg ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol.
Bydd yr ymholiad yn canolbwyntio ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr.
O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae gan y Comisiynydd, Meri Huws, bŵer i gynnal ymholiad statudol i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau.
Yr amserlen dan sylw ar gyfer yr ymholiad yw drafftio'r cylch gorchwyl dros yr wythnosau nesaf gan gynnal proses ymgynghori ar y cylch gorchwyl o Chwefror ymlaen.
'Adroddiad cynhwysfawr'
Disgwylir iddi setlo'r cylch gorchwyl a lansio'r ymholiad yn ffurfiol erbyn diwedd Mawrth.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae'r mwyafrif ohonom yn defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol ac yn amlach na pheidio, y gwasanaethau hyn yw man cychwyn y berthynas gyda'r gwasanaeth iechyd.
"Mae'n hollbwysig bod y berthynas honno'n cychwyn gyda pharch at ein hunaniaeth a'n hurddas ni fel cleifion ac mae iaith yn rhan annatod o hynny.
"Er bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu darparu ym mhob cymuned yng Nghymru, ychydig iawn o wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael ynghylch darpariaeth Gymraeg yn y maes."
Ychwanegodd y byddai'n casglu tystiolaeth a fydd yn arwain at gyhoeddi adroddiad cynhwysfawr yn haf 2014.
Bydd yr adroddiad yn cynnwys sylwadau, cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru neu bersonau eraill ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella profiad defnyddwyr o wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru.
"Wrth gynnal yr ymholiad, byddaf yn mynd ati'n rhagweithiol i ganfod beth yw profiadau pobl wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol," meddai Ms Huws.
"Byddaf hefyd yn trafod â phobl sy'n gweithio yn y sector i glywed eu barn a'u profiad wrth ddarparu'r gwasanaethau, ac er mwyn adnabod beth yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd posibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012