Clefyd: 'Cyrraedd y brig mewn mis'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i achosion y frech goch yn ardal Abertawe gyrraedd y brig mewn mis, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bellach mae nifer yr achosion wedi cyrraedd 693 ac mae swyddogion yn rhybuddio nad oes digon o blant rhwng 10 ac 17 oed yn dod i gael eu brechu.
Dywedodd llefarydd: "Ar sail tystiolaeth achosion eraill o'r frech goch, fe fyddwn yn disgwyl i'r haint gyrraedd y brig yn Abertawe ymhen pedair wythnos."
Bydd ysgolion Abertawe yn ailagor yr wythnos nesaf wedi gwyliau'r Pasg a'r penwythnos fydd y cyfle olaf i lawer gael brechiad cyn dychwelyd.
Bydd mwy o glinigau yn cael eu cynnal dros y penwythnos ac mae ICC yn annog rhieni plant sydd heb gael y brechiad i fynd yno.
Yn y cyfamser, mae pennaeth rhaglen frechu ICC wedi dweud wrth y BBC am bryderon ynghylch y nifer gynyddol o achosion ym Mhowys.
Mae 50 o achosion wedi dod i'r amlwg yn ardal y Trallwng yn ddiweddar.
Clinigau
Ddydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm bydd clinigau ychwanegol yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton yn Abertawe, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cyhoeddi y bydd dau glinig arbennig yng Nghasnewydd ac Ystrad Mynach ddydd Sadwrn.
Bydd y clinigau ar gyfer rhai rhwng 1 a 25 oed, yn enwedig rhai rhwng 16 a 25 oed.
Bydd clinigau arbennig yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro rhwng 10am a 4pm - un yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ar Heol Casnewydd (mae angen defnyddio mynedfa Heol Longcross) a'r llall yng nghanolfan blant Ysbyty Llandochau.
Ysgolion
Yr wythnos nesa' yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bydd timau brechu'n targedu ysgolion, gan ddechrau mewn pum ysgol uwchradd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd dros 2,000 o blant yn cael eu targedu a mwy o ysgolion yn rhan o'r cynllun o fewn wythnosau.
Bydd nyrsys yn brechu ddydd Mercher, Iau a Gwener yn Ysgol Babyddol yr Esgob Vaughan, Abertawe, ac Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, Abertawe.
Ddydd Mercher, Ebrill 17, bydd nyrsys yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt cyn mynd i Ysgol Gyfun Treforys, Abertawe ddydd Iau ac Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot, ddydd Gwener.
'Angen amser'
Cafodd 1,700 o bobl y brechiad MMR yn y clinigau arbennig yn yr ardal dros y penwythnos diwethaf ac fe gafodd 900 yn fwy eu brechu yn ystod yr wythnos aeth heibio.
Credir bod o leiaf 6,000 o blant yn ardal Abertawe sydd heb gael y brechiad MMR.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Cael y brechiad MMR yw'r unig ffordd o beidio â dal yr haint ac mae angen amser i'r brechiad ddechrau gweithio. Felly gorau po cyntaf y caiff y plentyn y brechiad.
"Cysylltwch gyda'ch meddyg teulu yn syth os nad yw eich plentyn wedi cael brechiad.
"Bydd clinigau arbennig yn cael eu cynnal yn ardaloedd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan ac Abertawe Bro Morgannwg ar ddydd Sadwrn, Ebrill 13."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013