Sgitsoffrenia'n 'codi ofn' ar gyflogwyr yn ôl dioddefwr

  • Cyhoeddwyd
Siobhan Davies

Mae dynes o Ynys Môn sydd â sgitsoffrenia yn dweud bod stigma ynglŷn â'r cyflwr wedi effeithio ar ei chyfleoedd gwaith.

Dywed Siobhan Davies, 45 o Rosneigr a mam i bedwar o blant, ei bod eisiau gweithio a chyfrannu i gymdeithas, ond bod cyflogwyr posib yn ofni rhoi cyfle iddi.

Yn ôl elusennau iechyd meddwl, mae diffyg dealltwriaeth sylweddol ynglŷn â'r cyflwr.

Mae ffigyrau diweddar elusen SANE yn awgrymu mai dim ond 8% o bobl sy'n byw gyda sgitsoffrenia sydd mewn gwaith, er bod hyd at 90% yn dymuno gweithio.

'Dal yn y gorffennol'

Mae Ms Davies yn clywed amrywiaeth o leisiau yn ei phen ers yn 16 oed - pob un ag enw a phersonoliaeth ei hun.

Dywed bod cyflogwyr posib yn clywed ei bod wedi methu gweithio am y saith mlynedd diwethaf tra'n cael gofal i mewn ac allan o'r ysbyty a gofyn i'w hunain: "Ydy hi'n mynd i fod i fewn eto?

"Fedran ni gymryd siawns arni? Ac mae lot o bobl ddim yn barod i neud hynny.

"Dyna 'di'r broblem. Ti'n ca'l dy ddal yn y gorffennol."

Ffynhonnell y llun, PA

Dydy cyflogwr posib erioed wedi gofyn wrthi pam na fu'n bosib iddi weithio cyhyd, a'i bod wedi rhoi'r wybodaeth yn wirfoddol.

"Fedra'i ddim cuddio hynny. Dwi ddim isio cuddio hynny. Dwi isio bod yn onast efo pawb."

Dywedodd ei bod hi'n beth da bod cymaint o bobl yn siarad am gyflyrau fel iselder, gorbryder ac anhwylderau personoliaeth, ond bod sgitsoffrenia yn dal i godi ofn.

Mae hynny, meddai, yn rhannol oherwydd y ffordd mae'n cael ei bortreadu gan y cyfryngau, a ffilmiau am lofruddion sgitsoffrenig.

Dywedodd bod angen i fwy o bobl sy'n byw bywydau llawn drafod eu sefyllfa er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn i'r cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, PA

Yn ôl yr elusen Hafal mae agweddau at salwch meddwl wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae pobl yn fwy agored ynglŷn â'u sefyllfa, medd cyfarwyddwr materion cyhoeddus yr elusen, Nicola Thomas, ac mae ymgyrchoedd fel Amser i Newid Cymru yn chwalu stigma.

Serch hynny, meddai, mae llawer yn dal i gamddeall salwch meddwl difrifol fel sgitsoffrenia, ac mae hynny'n gwneud hi'n fwy anodd i bobl i gael gwaith, er ei fod yn gyflwr y mae modd ei drin yn hawdd.

"Mae llawer o gleientiaid Hafal gyda sgitsoffrenia wedi gweithio'n llwyddiannus i wella a llwyddo yn eu nod o gael gwaith ac addysg," dywedodd.

"O ganlyniad i'n cynllun Camau Byr, fe wnaeth cannoedd o bobl gyda salwch meddwl difrifol ddychwelyd i'r gweithle, ac fe gafodd hynny effaith rymus ar ansawdd eu bywydau."

Camddealltwriaeth

Roedd ymatebion arolwg diweddar gan yr ymgyrch Rethink Mental Illness yn Lloegr, wnaeth holi 1,500 o bobl, yn awgrymu camddealltwriaeth am sgitsoffrenia.

Un person ymhob 100 sy'n byw gyda'r cyflwr, ond roedd 45% yn meddwl ei fod yn llawer mwy cyffredin na hynny.

Dywedodd hanner yr ymatebwyr yn anghywir bod y cyflwr o reidrwydd yn gyfystyr â chael personolaeth hollt, ac roedd chwarter dan y camargraff ei fod yn arwain at ymddygiad treisgar ym mhob achos.

Mae Siobhan Davies yn teimlo'n obeithiol ynglŷn â'r dyfodol ac yn chwilio am waith gwirfoddol wrth iddi wella'i CV.

"Dwi wedi gweithio yn y dyfodol ac mi fedra'i 'neud o eto. Mae'n rhaid aros yn positif."