Cyngor Gwynedd i benderfynu ar statws ysgol newydd Y Bala
- Cyhoeddwyd
Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod statws ysgol newydd Y Bala.
Mae'r cyngor yn ystyried argymhelliad i sefydlu Campws Dysgu gyda statws cymunedol ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Daw hyn yn dilyn gwrthwynebiad i'r penderfyniad gwreiddiol o roi statws eglwysig i'r ysgol newydd.
Pe bai'r cabinet yn cefnogi'r argymhelliad, bydd modd symud ymlaen i gam nesaf y prosiect, sef sefydlu'r ysgol fel endid.
Y cam cyntaf i wneud hynny fyddai sefydlu corff llywodraethu cysgodol yn ystod tymor yr haf 2018.
'Safle modern'
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, aelod cabinet addysg Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydan ni wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth addysg o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc dalgylch y Berwyn.
"Mae'r buddsoddiad o £10.27m sydd wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, am sicrhau fod plant yr ardal yn cael eu haddysgu ar safle modern sy'n darparu amgylchedd ddysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif."
Y cynllun presennol ydy uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol Eglwysig - gyda'r ysgol uwchradd.
Bydd y cynllun newydd yn gweld un campws mawr ar safle Ysgol y Berwyn.
Roedd cynlluniau i agor ysgol â statws eglwysig wedi achosi ffrae yn lleol, gyda nifer yn galw am ddynodi'r ysgol fel un cymunedol.
Ym mis Mehefin 2017 fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio'n unfrydol dros dynnu'r statws eglwysig oddi ar yr ysgol.
Mae'r gwaith yn parhau i adeiladu'r campws newydd gwerth £10m i blant 3-19 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Y bwriad yw agor yr ysgol ar 1 Medi 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2017