'Angen diwygio'r coleg etholiadol' medd dau undeb

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn ildio'r awennau fel arweinydd Llafur Cymru yn yr hydref

Mae dau o'r prif undebau llafur yn dweud bod Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol y Blaid Lafur â gormod o ddylanwad dros bwy fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.

Daw'r sylwadau gan undebau Unison a'r GMB wrth i'r blaid ddod dan bwysau cynyddol i newid y ffordd y bydd yn ethol olynydd.

Jeremy Corbyn oedd arweinydd Llafur cyntaf y DU i gael ei ethol dan y drefn un-aelod-un-bleidlais.

Mae'r blaid yng Nghymru yn dal i ddefnyddio'r coleg etholiadol i ethol ei harweinwyr - trefn sy'n rhoi traean o'r bleidlais i aelodau unigol, traean i undebau llafur, a thraean i'r ACau ac ASau.

Yng nghynadledd Llafur Cymru yn Llandudno fis diwethaf, fe gytunodd y blaid i adolygu'r broses.

Mae galw wedi bod am newid cyn ethol arweinydd newydd yn yr hydref.

Mae Unison a'r GMB yn galw am gadw'r coleg etholiadol gan leihau neu hepgor bloc pleidleisiau'r ACau ac ASau.

Mae eraill, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, sy'n ymgeisio i olynu Mr Jones, yn ymgyrchu dros roi un bleidlais i bob aelod, fel bod pleidlais pawb yn gyfartal.

'Anghynaladwy'

Dywedodd Steve Belcher, uwch swyddog gydag Unison: "Mae angen diwygio'r coleg etholiadol.

"Dyw e ddim yn gynaliadwy yn ei ffurf bresennol. Yr hyn rydyn ni am ei weld yw llai o bwyslais - neu ddim pwyslais - ar bleidleisiau ACau ac ASau."

Dywedodd Mike Payne, swyddog rhanbarthol gyda'r GMB a chyn-gadeirydd Llafur Cymru, fod pleidlais pob un o'r 58 AC, AS ac ASE Llafur yn cyfateb i bleidleisiau tua 400 o aelodau cyffredin o'r blaid.

Bydd tua 150,000 o aelodau undebau sy'n gysylltiedig â'r blaid Lafur yn gymwys i fwrw pleidlais yn yr etholiad i ddewis arweinydd.

"Mae'r sefyllfa'n anghynaliadwy ac mae'n fater y bydde' pobl o bob adain o'r blaid yn dymuno ei newid," meddai Mr Payne.

"Mae mwy a mwy o bobl yn dweud bod yr aelodau etholedig eisoes yn cael pleidlais fel aelod o'r blaid neu aelod o undeb llafur, [gan ofyn] pam bod nhw'n cael trydydd pleidlais hefyd."