Ateb y Galw: Yr awdur Llwyd Owen
- Cyhoeddwyd
![Llwyd Owen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C2DB/production/_102038894_portreadllwyd.png)
Yr awdur, Llwyd Owen, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Rufus Mufasa yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gwylio Bagpuss a bod yn ofnus iawn o Professor Yaffle (y cnocell y coed).
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Bungle. Michaela Strachan. Jeifin Jenkins. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna.
![Jeifin Jenkins](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/942B/production/_96013973_jeifin.jpg)
Jiw Jiw Jeifin Jenkins!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio troi lan i ddigwyddiad a drefnwyd i hyrwyddo un o fy nofelau. Ro'n i'n gwylio Greg Davies, y digrifwr, yn Neuadd Dewi Sant ar y pryd, a llond stafell o bobl yn aros amdanaf yng Nghanolfan y Mileniwm. Disgrês!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fi'n crio fel babi ar y pethau mwyaf dibwys - fideos twymgalon ar Twitter, ffilmiau plant, hysbysebion.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rhegi fel b******.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bryncelyn, cartref fy niweddar mam-gu a dad-cu. Bwthyn hudolus yng nghefn gwlad Ceredigion a chist llawn atgofion melys o fy mhlentyndod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
31 Mawrth 1993: Y noson y collais fy nghwyfyrdod a'r noson sgoriodd Ryan Giggs ac Ian Rush gôl yr un i guro Gwlad Belg yn y stadiwm cenedlaethol.
![Ian Rush](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C1B9/production/_102039594_ianrush.jpg)
Nid Ian Rush a Ryan Giggs oedd yr unig rai a sgoriodd ar y noson dyngedfennol honno ym mis Mawrth 1994...
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Ffyddlon. Gweithgar. Hoffus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Hoff lyfrau: Rifiera Reu (Dewi Prysor); Y Dŵr (Lloyd Jones); Sheepshagger (Niall Griffiths); Cardiff Cut (Lloyd Robson); The Winter of Frankie Machine (Don Winslow); Transition (Iain Banks).
Hoff ffilmiau: The Big Lebowski, Chopper, Twin Town, Frank, Get Out, Before the Devil Knows You're Dead, Bill & Ted's Excellent Adventure.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mam. Achos nath hi farw yn llawer rhy ifanc.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
O Archif Ateb y Galw:
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i bump tatŵ. Dau ar fy mraich chwith a thri ar fy mŵbs!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yfed. Smocio. Canu. Caru.
Beth yw dy hoff gân a pham?
The Most Beautiful Girl in the Room gan Flight of the Conchords. Dyma 'gân' fi a fy ngwraig, Lisa.
![twin town](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FFF4/production/_93342556_55c595c6-58cc-4454-9eaf-87e0e8ca7d0e.jpg)
Mae Llwyd, fel llawer ohonom ni, yn ffan o'r ffilm eiconig o Abertawe, Twin Town
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - corgimychiaid mewn tsili a choriander.
Prif gwrs - cyrri paneer, madarch, ffacbys ac ysbigoglys.
Pwdin - tarte au citron.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Jacob Rees-Mogg, er mwyn gallu trosglwyddo ei ffortiwn i fy nghyfrif banc personol a'i adael e heb yr un geiniog.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Esyllt Sears