Y Ceidwadwyr Cymreig i gyhoeddi arweinydd newydd

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies and Suzy DaviesFfynhonnell y llun, Conservative Party

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn enwi arweinydd newydd eu grŵp yn y Cynulliad yn dilyn pleidlais bost gan aelodau'r blaid.

Paul Davies a Suzy Davies yw'r ddau ymgeisydd sy'n sefyll i olynu Andrew RT Davies, a ymddiswyddodd ym mis Mehefin.

Bydd yr enillydd, wedi iddo neu iddi gael ei gyhoeddi yng nghwrs rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin, yn arwain yr wrthblaid fwyaf yn y Cynulliad.

Y Ceidwadwyr fydd yr ail o'r pedwar prif bleidiau i gyhoeddi eu harweinydd newydd.

AC Preseli Penfro, Paul Davies, sydd wedi bod yn arwain y blaid dros dro ers ymddiswyddiad Andrew RT Davies, a Suzy Davies, AC Gorllewin De Cymru yw llefarydd y blaid ar wasanaethau cymdeithasol, darlledu a'r iaith Gymraeg.

Mae Paul Davies wedi addo cyflwyno "atebolrwydd democrataidd" i fyrddau iechyd ac yn gobeithio dilyn "agenda trethi isel".

Mae Suzy Davies wedi addo ymgyrchu am "ariannu teg" i ofal cymdeithasol ac i orffen y polisi sy'n darparu presgripsiynau am ddim i bawb.

Cefnogodd y ddau ymgeisydd yr ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac mae'r ddau wedi dangos eu bod yn awyddus i drafod cytundeb clymbleidiol i arwain ym Mae Caerdydd.

Maen nhw hefyd eisiau i enillydd yr ymgyrch hon i gael ei ystyried yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ogystal ag arweinydd y grŵp yn y Cynulliad - gwahaniaeth sydd wedi achosi tipyn o wrthdaro o fewn y blaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r grŵp o 12 sydd gan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi bod yn wrthblaid i Lafur ers datganoli yn 1999.

Pedwar arweinydd newydd

Mae'r pedair prif blaid yn y Cynulliad wedi cynnal ymgyrch am yr arweinyddiaeth eleni.

Ym mis Awst, daeth Gareth Bennett yn arweinydd ar UKIP, gan drechu ei rhagflaenwyr, Neil Hamilton a Caroline Jones.

Mae Leanne Wood yn wynebu her am ei harweinyddiaeth gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth, ac mae disgwyl i Blaid Cymru gyhoeddi enillydd y ras honno yn ddiweddarach y mis hwn.

Yn ogystal, bydd Llafur Cymru yn ethol arweinydd newydd i olynu Carwyn Jones, sy'n bwriadu camu lawr o'i rôl fel arweinydd a phrif weinidog ym mis Rhagfyr.