Ble mae'r Ddraig Goch?

  • Cyhoeddwyd
Becky JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Becky James yn chwifio Jac yr Undeb ar ôl ennill y gyntaf o ddwy fedal arian yn Rio

Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi bod baner y Ddraig Goch heb fod yn amlwg iawn yn y Gemau Olympaidd eleni. Felly oes yna reswm da am hynny?

Bu llawer o bobl yn sydyn i droi at gyfryngau cymdeithasol i honni fod y seiclwraig Becky James wedi gwrthod chwifio'r Ddraig Goch er mwyn cael baner Jac yr Undeb ar ôl iddi ennill medal arian. Ond, os oedd hynny'n wir neu beidio, fyddai ganddi ddewis? Wel, byddai, mae'n debyg...

Beth ddywedodd y Pwyllgor Olympaidd (IOC)?

"Yr oll y mae'r IOC yn ei ofyn yw bod gwylwyr ddim yn arddangos unrhyw beth all gael ei weld fel rhyw fath o ddatganiad propaganda sy'n hiliol, grefyddol neu'n wleidyddol," meddai llefarydd ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC).

"Felly dim ond baneri o wledydd sy'n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd sy'n cael eu caniatáu, nid baneri all gael eu dehongli i fod yn arwyddion gwleidyddol.

"Fel yn y gorffennol, wrth gwrs fod baneri'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn iawn i'w defnyddio, gyn belled fod hynny o fewn cyd-destun chwaraeon."

Beth ddywedodd Tîm Prydain?

Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Prydain (Team GB) wrth Cymru Fyw nad oes yna unrhyw waharddiad ar y defnydd o faneri'r Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon na Chymru yn y Gemau Olympaidd gyn belled â'u bod nhw yn y cwestiwn.

Be' am Chwaraeon Cymru?

"Does yna ddim gwaharddiad ar baneri Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd," meddai llefarydd ar ran y corff sy'n cynrychioli athletwyr Cymru.

"Mae athletwyr o Gymru yn Rio fel rhan o Dîm Prydain ac mae nifer yno diolch i gynlluniau datblygu sydd wedi'u hariannu gan Brydain."

Ydy'r Ddraig Goch wedi'i defnyddio gan seren Olympaidd yn ddiweddar?

Mae nifer o faneri Cymru i'w gweld yn y dorf yn Rio, ond pwy all anghofio Jade Jones yn chwifio'r Ddraig Goch yn y Gemau yn Llundain bedair blynedd yn ôl yn dilyn ei medal aur yn y Taekwondo? Roedd hi wrthi eto ddydd Iau, ar ôl sicrhau medal aur arall.

Wnaeth Jade Jones gyfaddawdu yn 2012 gan chwifio Jac yr Undeb a'r Ddraig GochFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Jade Jones yn chwifio Jac yr Undeb a'r Ddraig Goch yn Llundain yn 2012

Yw'r Ddraig Goch wedi'i gweld ar lwyfan ryngwladol y byd chwaraeon o'r blaen?

Do - yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf. Bu canmol mawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dros yr haf yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol yn Euro 2016, lle bu'r Ddraig Goch yn amlwg iawn yn y dathliadau.

Cyn hynny, fe daflodd Aaron Ramsey - sgoriwr y gôl fuddugol yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn 2014 - y faner dros ei ysgwyddau wedi'r chwiban olaf. Felly hefyd Jamie Donaldson ar ôl ei gampau yng Nghwpan Ryder 2014, a'r seren fyd-enwog Gareth Bale ar ôl ei gôl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn yr un flwyddyn.

Fflagiau CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Ramsey (Cwpan FA), Jamie Donaldson (Cwpan Ryder) a Gareth Bale (Cynghrair y Pencampwyr) yn chwifio'r Ddraig Goch ar rai o lwyfannau mwyaf y byd chwaraeon

Oes yna waharddiad wedi bod ar y defnydd o'r Ddraig Goch tu hwnt i fyd y campau?

Oes - am ryw hyd. Yn gynharach eleni, fe wnaeth trefnwyr cystadleuaeth yr Eurovision wneud tro pedol ar benderfyniad i atal pobl rhag chwifio baneri rhanbarthol yn y gystadleuaeth - gan cynnwys y Ddraig Goch.

Doedd gan gefnogwyr y canwr o Rhuthun, Joe Woolford, a oedd yn rhan o ddeuawd yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth yr Eurovision yn Sweden, ddim hawl i chwifio baner Cymru yn yr arena.

Yn ôl Eurovision, roedd rhai baneri wedi eu gwahardd yn wreiddiol er mwyn "sicrhau nad oes negeseuon gwleidyddol yn cael eu cyfleu". Ond cafodd y rheol ei newid ar ôl trafodaethau gyda'r gwahanol wledydd oedd yn cystadlu.