Teulu o Ddyffryn Nantlle am ddod o hyd i gerflun coll

  • Cyhoeddwyd
llun o'r cerflunFfynhonnell y llun, Canolfan y Fron
Disgrifiad o’r llun,

Y llun gwreiddiol a gafodd ei ddefnyddio wrth lunio'r cerflun coll

Mae teulu o Ddyffryn Nantlle yn gobeithio bydd ymddangosiad ar raglen deledu boblogaidd yn eu helpu i ddod o hyd i gerflun a enillodd wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1937 ond sydd wedi bod ar goll am 80 o flynyddoedd.

Cafodd y cerflun llechen ar y testun Owain Glyndŵr ei gerfio gan chwarelwr o'r enw Owen Roberts, ac mae ei ferched, Vera Thomas ac Olwen Thomas yn ceisio ei ailddarganfod.

Bydd rhaglen Antiques Roadshow ddydd Sul yn dangos y llun gwreiddiol a gafodd ei ddefnyddio wrth lunio'r cerflun.

Fe wnaeth y cerflun ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937.

Ffynhonnell y llun, Canolfan y Fron
Disgrifiad o’r llun,

Owen Roberts ar ei feic modur, gyda'i rieni

Mae Vera Thomas yn gobeithio y bydd dangos y llun gwreiddiol ar y rhaglen deledu yn annog rhywun i gysylltu â nhw.

"Dyw'r teulu ddim am gael y cerflun yn ôl, ond rydym am wybod ei fod yn cael ei ofalu amdano," meddai.

"Rydym hefyd am wybod a yw'r stori yn wir fod un o'r blociau llythrennau yn y cerflun wedi ei osod yn wahanol i'r blociau yn y llun," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Olwen Thomas a Vera Thomas

Mae'r cerflun mewn arddull Art Deco y cyfnod yn dangos dau blentyn yn chwarae gyda blociau â llythrennau arnynt sy'n sillafu'r geiriau 'Rhyddid, Dysg a Chrefydd'

Yn y cefndir mae adeiladau a golygfeydd sy'n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr, a ffigwr benywaidd, sydd wedi ei fodelu ar gerflun enwog Statue of Liberty Efrog Newydd.

Cafodd y llun ei brynu wedi'r gystadleuaeth am £7 - tua £300 heddiw - gan Bwyllgor yr Eisteddfod.

Roedd yna ychydig o anghydfod ynglŷn â'r dyfarnu gwreiddiol, gan fod y beirniaid yn cynnwys cyfnither yr artist, y nofelydd Kate Roberts.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Y Fron
Disgrifiad o’r llun,

Un o weithiau Owen Roberts ar y testun 'Diweithdra' sydd i'w weld yng Nghanolfan y Fron

Cafodd y cerflun ei weld ddiwethaf yn y 1980au fel rhan o arddangosfa ym Machynlleth, a'r gred yw ei fod yn dal yn yr ardal honno.

Mae dwy enghraifft o weithiau eraill Owen Roberts i'w gweld yng Nghanolfan y Fron yn Nyffryn Nantlle.

Dywedodd Jim Embrey - cadeirydd y ganolfan sydd hefyd yn perthyn i deulu Owen Roberts - eu bod yn gobeithio y bydd y rhaglen yn help wrth ddod o hyd i'r cerflun.

"Fe gafodd ei weld mewn arddangosfa yn yr 80au ond does dim sôn ar ôl hynny. Byddwn wrth ein bodd yn cael gwybod ydi o'n saff ac mewn cyflwr da.

"Felly mae yna apêl i ddod o hyd i'r cerflun coll.

"Ac yn lle darlun ar y wal yma yng Nghanolfan y Fron, bydd modd i ni gael cerflun - hyd yn oed os ond am gyfnod byr - i'w arddangos fel teyrnged i Owen Roberts ac i'n hetifeddiaeth llechi."

Fe fydd rhaglen Antiques Roadshow i'w weld ar BBC 1 am 19:00 ddydd Sul