Beth yw'r dyfodol i radio lleol?

  • Cyhoeddwyd
Vick Hope with Roman Kemp and Jamie Theakston with Emma BuntonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lleisiau newydd rhaglenni lleol Cymru? Vick Hope a Roman Kemp ar Capital Llundain a Jamie Theakston ac Emma Bunton oedd yn cydgyflwyno rhaglen fore Heart tan yn ddiweddar

Champion FM, Sain y Gororau, Radio Ceredigion, Red Dragon a Real Radio - rhai o'r gorsafoedd radio masnachol oedd yn rhoi lleisiau lleol ar y tonfeddi radio yng Nghymru.

Mae'r rhain bellach yn rhan o hanes a gyda chyhoeddiad cwmni Global bod eu rhaglenni brecwast lleol yn dod i ben drwy'r DG, rhaglen ganolog o Lundain fydd y gwrandawyr Capital a Heart FM yn ei glywed yn y bore o hyn ymlaen.

Mae Global yn dweud mai cynnig cystadleuaeth well i orsafoedd poblogaidd y BBC yw'r rheswm.

Ond wrth i raglenni o Gymru wneud lle i raglenni canolog o Loegr mae'r darlithydd cyfryngau Marc Webber yn dweud bod llais Cymru ar fin diflannu oddi ar ein gorsafoedd radio masnachol.

"Mae angen gorsaf i Gymru sy'n mynd i greu gwasanaethau cyfan gwbl o Gymru," meddai Mr Webber, darlithydd ym Mhrifysgol Northampton a sylwebydd chwaraeon a ddechreuodd ei yrfa gyda Red Dragon Radio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Marc Webber eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o help i fusnesau darlledu sain yng Nghymru

"Dros y degawd diwetha mae tua 100 o swyddi wedi eu colli dros Gymru gyfan gyda chau adrannau lleol y busnesau radio masnachol.

"Mae 100 o swyddi mas o ddiwydiant yng Nghymru yn eitha lot - rydyn ni'n colli llais Cymru. Does dim lot o leisiau o Gymru nawr ar orsafoedd Global na radio masnachol eraill fel y mae.

"Ond hefyd ti'n colli swyddi.

Colli pobl dalentog

"'Wi'n edrych at y dyfodol a beth fi'n gallu ei weld yw colli pobl talentog o Gymru sydd yn gallu creu cynnwys sain sy'n bwysig i Gymru a ledled y byd.

"Rwy'n rhoi'r bai am beth sydd wedi digwydd yng Nghymru wrth draed Ofcom, achos dydi Ofcom ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng Cymru a rhanbarthau Lloegr," meddai.

Ofcom yw'r corff sy'n gyfrifol am roi trwyddedau radio a gosod y rheolau ar eu cyfer.

Mae Global, perchnogion Capital a Heart, yn lleihau eu horiau darlledu lleol o 10 awr i 3 awr y dydd ar ôl i Ofcom newid y canllawiau ar gyfer radio lleol.

"Ar ddiwedd y dydd, busnes yw Global a Bauer [perchnogion Sain Abertawe], dwi ddim yn rhoi lot o fai arnyn nhw am gymryd mantais o reolau sy'n dweud eu bod nhw'n gallu rhedeg yr holl orsaf o Lundain os ydyn nhw mo'yn, achos busnes masnachol ydyn nhw," meddai Mr Webber.

Ffynhonnell y llun, Swansea Sound/The Wave
Disgrifiad o’r llun,

Sain Abertawe oedd gorsaf fasnachol gyntaf Cymru a'r lleisiau cyfarwydd arni yn cynnwys Garry Owen (crys coch)

'Ras i'r gwaelod'

Mae hi'n "ras i'r gwaelod" o ran radio masnachol lleol yng Nghymru meddai Mr Webber a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad i ddyfodol radio yn 2018.

Roedd yr ymchwiliad hwnnw yn dweud y dylai newyddion am Gymru fod yn un o'r prif amodau wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl dechrau gyda radio ysbyty roedd Kevin 'Bach' Williams yn un o gyflwynwyr Champion 103 cyn ii'r orsaf droi'n Heart ac yna Capital dan reolaeth Global - mae ei raglen Gymraeg yn ddiogel am y tro

Mae Mr Webber yn credu y bydd Nation Radio [yr hen Xfm sydd wedi disodli Radio Ceredigion] a Bauer [sydd berchen Sain Abertawe] yn cau eu gwasanaethau lleol nhw drwy Gymru-gyfan hefyd "a chreu rhwydwaith efo'u brandiau nhw o Manceinion a Llundain - mae hyn yn mynd i ddigwydd," meddai.

Mae hefyd yn rhagweld y bydd yr unig gystadleuaeth masnachol Cymraeg i Radio Cymru yn diflannu hefyd gyda sioeau Alistair James, Kev Bach a Dafydd Griffiths ar Capital Cymru yn y gogledd yn dod i ben maes o law.

Dyma'r gwasanaeth oedd yn arfer bod ar Champion 103, Coast a Marcher.

"Dwi'n rili poeni y bydd Capital Cymru yn cau mewn dwy flynedd, yr hen Champion FM wrth gwrs, yr unig lais yn erbyn Radio Cymru ac sy'n rhoi rhyw fath o wahaniaeth mewn peak hours i wrandawyr Cymraeg," meddai Mr Webber.

Hefyd o ddiddordeb:

Datganoli darlledu?

Mae rhai yn galw ers rhai blynyddoedd am ddatganoli'r rheolaeth dros ddarlledu i Gymru. Ai dyna'r ateb?

"Ie, ond beth sy'n fwy pwysig na'r syniad o ddatganoli'r holl system ddarlledu yw creu rheolaeth gryf.

"Mae na ddwy ffordd i fynd nawr - naill ai trio achub mwy o'r cynnwys lleol ar FM a'r gorsafoedd lleol - sydd fel Canute yn troi'r llanw.

"Neu, beth sy'n bwysicach ydy achub llais pobl Cymru ac achub swyddi yng Nghymru a dyna pam dwi'n credu y dylai'r llywodraeth, a sefydliadau eraill, wneud mwy - does dim angen datganoli darlledu i helpu pobl i greu busnesau newydd.

"Dwi'n credu bod hwn dan reolaeth llywodraeth Cymru.

"Er bod rheolaeth darlledu ddim wedi ei ddatganoli, mae hyn yn rhan o ddiwylliant a busnes Cymru."

"Yn lle poeni am golli swyddi yn Capital Wales a Chaerdydd, beth sy'n bwysig yw bod rhywun yng Nghymru yn ffeindio ffordd o'u hybu nhw i greu podlediadau neu streaming services yn Gymraeg neu Saesneg drwy Spotify a chreu marchnad newydd ar digidol ar gyfer cynnwys o Gymru - dyna beth sydd ddim yn digwydd.

"Mae angen efallai anghofio FM ... efallai hyd yn oed radio DAB hefyd achos dydi DAB ddim yn gweithio'n dda yn y rhan fwyaf o Gymru a gweld mai'r dyfodol yw Spotify ac arlein a thrio creu busnes o Gymru yn y maes yna.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Radio Ceredigion yn 1992 ond mae'r rhaglenni canolog Nation Radio'n cael eu darlledu ar y donfedd bellach

"Beth dwi eisiau ei weld yw rhywun yn y llywodraeth yn helpu i hybu cwmnïau newydd fel busnes creu sain a phodlediadau ac yn y blaen fel roedden nhw'n trio ei wneud efo'r hen weithwyr dur ym Mhort Talbot i sefydlu swyddi.

"Os ydyn nhw'n cau'r ffatri Ford ym Mhen-y-bont byddai'r llywodraeth yna i helpu i ailsgilio pobl sy'n colli gwaith yn y ffatri ac yn eu helpu i greu busnes bach neu weithio efo cwmnïau eraill neu'n freelance."

Dylai'r un peth ddigwydd gyda staff radio lleol hefyd meddai.

"Achos be sy'n digwydd ydi bod pobl dalentog sy'n gallu creu cynnwys o Gymru, yn gadael Cymru ac yn mynd am swyddi newydd yn Llundain neu Manceinion.

Bydd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, yn trafod yr heriau i Gymru yn y cyfryngau global yn narlith Gŵyl Ddewi Prifysgol Abertawe ar 7 Mawrth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rhodri Talfan Davies

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rhodri Talfan Davies