M4: Dim cyhoeddiad tan ar ôl is-etholiad San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Twneli Brynglas ar yr M4

Ni fydd yna benderfyniad ar ffordd liniaru'r M4 cyn canlyniad is-etholiad Gorllewin Casnewydd ar 4 Ebrill.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau hynny gan ddweud wrth aelodau cynulliad nad oes modd gwneud cyhoeddiad o'r fath yn ystod ymgyrchoedd etholiad.

Fodd bynnag, mynegodd y Ceidwadwyr Cymreig eu hamheuon am ei sylw yn y Senedd brynhawn Mawrth.

Dywedodd ffynhonnell o Whitehall bod atebion Mr Drakeford "fymryn yn gyfleus" ac nad oedd yna unrhyw beth i atal Llywodraeth Cymru rhag gwneud penderfyniadau yn ystod etholiad San Steffan.

Mae'r is-etholiad yn cael ei gynnal yn sgil marwolaeth yr AS Llafur, Paul Flynn ym mis Chwefror.

Mae'r ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer y sedd, cyn-arweinydd cyngor Casnewydd, Matthew Evans, wedi rhoi sylw mawr i'r M4 yn ei ymgyrch.

Mae Mr Drakeford yn dal i ystyried casgliadau ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd liniaru, ynghyd â chyngor cyfreithlon a thechnegol gan weision sifil.

Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd: "Ni all y llywodraeth - yn sgil rheolau cywir a phriodol - wneud cyhoeddiad gall amharu ar is-etholiad lleol o'r math yma.

"Felly ni fydd yna gyhoeddiad gen i. Dydw i ddim yn gallu gwneud cyhoeddiad tan fydd yr is-etholiad wedi dod i ben."

'Un esgus ar ôl y llall'

Yn ôl Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r penderfyniad yn un hir-ddisgwyliedig erbyn hyn.

"Mae edrych i fi fel petai yna un esgus ar ôl y llall," meddai.

Ceisiodd roi pwysau ar Mr Drakeford i rannu canfyddiadau'r ymchwiliad - rhywbeth dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n gwneud "pan fyddai'n bosib".

"Cyn gynted ag y mae'r rheolau yn caniatáu hynny i ddigwydd, bydd yr adroddiad ar gael i aelodau," meddai Mr Drakeford.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddau modd i'r aelodau weld yr adroddiad unwaith i'r rheolau ganiatáu hynny

Bydd rhaid i Mr Drakeford benderfynu a ddylid caniatau'r ffordd liniaru.

Mae Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer heriau cyfreithiol i'r penderfyniad.

Os yw'n penderfynu o blaid adeiladu'r heol, mae'r aelodau cynulliad wedi derbyn addewid y bydd pleidlais yn y Senedd cyn iddi gael ei hadeiladu.

Byddai'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio - sef y "llwybr du" - yn creu traffordd 14 milltir gyda chwe lôn i'r de o Gasnewydd, ar gost o £1.4bn, yn ôl amcangyfrifon.

Mae nifer o ACau yn gwrthwynebu'r cynlluniau'n chwyrn.