Casnewydd 'methu ag aros yn rhagor' i wella'r M4

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o ffordd liniaru'r M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o ran o'r ffordd liniaru bosib

Mae un o Aelodau Seneddol Casnewydd yn dweud na allai'r ardal aros yn rhagor am benderfyniad ynghylch prosiect ffordd liniaru'r M4.

Yn ôl Ruth Jones, mae'r sefyllfa bresennol yn "cyfyngu busnesau, ysgolion, cartrefi a thwristiaeth" yn ne ddwyrain Cymru.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gyhoeddi ei benderfyniad ar y cynllun dadleuol gwerth £1.4bn mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn bwriadu gwneud sylw cyn y datganiad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Drakeford wedi cael ei feirniadu am oedi dros y penderfyniad

Mae'r llywodraeth yn ffafrio'r 'llwybr du' arfaethedig, sy'n cynnwys codi traffordd chwe lôn 14 milltir o hyd a phont newydd dros Afon Wysg.

Dyw'r Prif Weinidog heb leisio barn am y cynllun yn gyhoeddus, ond mae wedi dweud y byddai cynllun rhatach yn ddeniadol .

Fis Ionawr, datgelodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod adroddiad wedi ymchwiliad cyhoeddus hir yn ffafrio symud ymlaen â'r cynllun.

Mae arweinwyr busnes yn dweud bod tagfeydd, yn arbennig ger twneli Brynglas, yn effeithio ar economi'r rhanbarth.

Mae amgylcheddwyr yn gwrthwynebu effeithiau posib codi ffordd newydd ar wastadeddau Gwent, sy'n cynnwys sawl ardal o ddiddordeb gwyddonol eithriadol.

'Penderfyniad tyngedfennol'

Mae'r llywodraeth Mae Llywodraeth wedi gaddo pleidlais i ACau dros y mater, ond mae'r cynllun yn hollti barn ar lawr y Senedd, gan gynnwys ymhlith ACau Llafur.

Mae Plaid Cymru ymhlith y rhai sy'n dadlau i blaid cynllun amgen y 'llwybr glas', sy'n awgrymu defnyddio rhai o ffyrdd presennol yn ardal.

Yn ôl AS Gorllewin Casnewydd, Ruth Jones. dyma'r "penderfyniad mwyaf tyngedfennol, mae'n debyg, mewn cysylltiad ag economi de ddwyrain Cymru yn y ddegawd nesaf".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ruth Jones nad ydy hi'n ffafrio un llwybr dros y gweddill

"Mae'n hanfodol bod rhywbeth yn cael ei wneud i leddfu'r sefyllfa bresennol, y tagfeydd, a'r problemau sy'n effeithio Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos," meddai.

"Nid fy mhenderfyniad i ydi hyn - rwy'n deall hynny. Penderfyniad y prif weinidog yw hyn, ond mae angen dod i benderfyniad.

"Mae Casnewydd wedi aros 10 mlynedd am hyn. Ni methu aros rhagor."

"Mae angen dod i benderfyniad - mae'r sefyllfa bresennol yn cyfyngu busnesau, ysgolion, cartrefi a thwristiaeth."