Profiad 'gwenwynig' menyw o geisio am loches yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae ceisio am loches yn broses "wenwynig" sy'n "lladd eich breuddwydion" yn ôl dynes o Somalia sydd yng Nghymru.
Yn fam i fabi newydd-anedig, mae'r ddynes 28 oed - sydd yn dymuno aros yn ddienw - yn poeni am fywydau hi a'i phlentyn os ydyn nhw'n cael eu gyrru'n ôl i Somalia.
Dywedodd Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, bod y Swyddfa Gartref wedi ymddwyn "heb galon a heb gydwybod".
Ymateb y Swyddfa Gartref oedd bod ganddi "hanes balch o roi lloches i'r rheiny sydd angen eu gwarchod" a bod "pob un achos yn cael ei werthuso yn seiliedig ar rinweddau unigol".
Symudodd y ddynes i'r DU yn 2011 gyda fisa priodasol, a hynny fel rhan o briodas oedd wedi ei threfnu o flaen llaw.
Ond yn fuan wedyn, fe drodd pethau'n sur rhwng y ddau wrthi iddi gael ei "thrin fel morwyn" gan ei gwr.
Ar ôl ystyried lladd ei hun, penderfynodd mai gadael y berthynas fyddai'r ateb gorau, ond doedd dychwelyd i Somalia ddim yn opsiwn.
"Roeddwn i'n poeni - mae pobl yn Somalia yn gallu troi yn eich erbyn pan fydd eich priodas yn dod i ben," meddai.
'Fi yn erbyn y byd'
Ar ôl gwneud cais am loches a chael ei gyrru i Gymru - cafodd wybod bod y cais wedi ei wrthod a bod y Swyddfa Gartref yn bwriadu rhoi'r gorau i'w chefnogi.
"Roedd e'n teimlo fel fi yn erbyn y byd, a doedd gen i unman i droi," meddai.
Roedd y Swyddfa Gartref am iddi adael ei thŷ a dychwelyd i Somalia tra roedd hi'n feichiog. Ond mae hi'n dweud "fe allet ti gael dy ladd" am gael babi y tu allan i briodas yn Somalia.
Mae hi eisiau magu ei babi yn Abertawe, a chychwyn gyrfa fel nyrs rhyw ddydd: "Dwi am i'r babi beidio gorfod poeni am bopeth a chael bywyd gwell na fi."
Dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn gwneud digon i gefnogi ceiswyr lloches, yn ôl yr AS Carolyn Harris.
Mae hi'n galw ar i achosion gael eu hystyried yn unigol a "gyda thrugaredd".
"Dyw pobl ddim yn dod yma i fwynhau eu hunain - yn aml iawn mae llawer ohonyn nhw yma am eu bod nhw'n gadael sefyllfaoedd anodd yn eu gwledydd genedigol."
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Bethan Sayed bod "achos fel hyn yn dangos bod nifer o'r polisïau sydd mewn grym gan Lywodraeth y DU wedi cael eu ffurfio i ddychryn, codi cywilydd, diraddio ac achosi poen i'r rheiny sydd yn barod yn bobl fregus".
Dywedodd llefarydd o'r Swyddfa Gartref bod "hanes balch o roi lloches" i bobl sydd ei angen, ond nad ydyn nhw'n ymateb i achosion unigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019