Technoleg rhithwir yn help i drin PTSD cyn-filwyr
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r astudiaethau cyntaf o'i fath yn y byd wedi darganfod y gallai technoleg rhithwir fod o gymorth i gyn-filwyr sy'n dioddef o gyflwr PTSD (post traumatic stress disorder).
Fe gymerodd 42 o gyn-filwyr ran yn yr astudiaeth ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda dwy ran o dair o'r grŵp yn gweld gwelliannau yn eu symptomau.
Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn awgrymu y gallai cleifion weld gwelliant o bron i 40% yn eu symptomau yn dilyn y driniaeth - sy'n gorfodi cleifion i gerdded ar beiriant gyda sgrin sinema fawr o'u blaenau.
Mae academydd sy'n arwain y prawf yn dweud bod "wynebu eu hofnau" ar y sgrin ac ail-fyw'r "profiadau trawmatig maent wedi eu hwynebu" yn gallu helpu triniaeth.
Profiad un cyn-filwr
Un sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil yw'r cyn-filwr Matt Neve.
Yn 2001, ymunodd Mr Neve â'r Awyrlu yn 16 oed, a dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei yrru i'r rhyfel yn Irac er mwyn helpu i gludo a symud milwyr wedi eu hanafu.
"Pan rydych chi'n cael eich rhoi mewn amgylchedd fel 'ma, ac yn gweld dynion sydd wedi'u hanafu'n drychinebus a rhai wedi cael eu lladd, mae'n eithaf anodd disgrifio'r peth...
"Mae gennych chi'r holl emosiynau hyn yn llifo trwyddo chi - ofn, cynnwrf, pryder - ac mae'r cyfan yn eich taro mewn un don, ond roedd hyn yn digwydd yn gyson."
Ers gadael yr Awyrlu, mae Mr Neve wedi profi ôl-fflachiadau a hunllefau dwys, ac roedd wedi dechrau yfed yn drwm.
Ond yn ystod y Gemau Invictus yn 2016, fe ddaeth i gyswllt â chyn-filwyr eraill oedd yn yr un sefyllfa, ac fe sylweddolodd yn union beth oedd yn bod.
12 mlynedd ar ôl gadael yr Awyrlu, fe ddechreuodd dderbyn triniaeth cwnsela ar gyfer PTSD, ond nid oedd yn ymddangos fod y driniaeth yn gwneud llawer o wahaniaeth.
Ers hynny mae Mr Neve wedi rhoi cynnig ar nifer o wahanol driniaethau, heb yr un yn gwneud llawer o wahaniaeth i'w symptomau.
'Anodd iawn'
Yn ddiweddar, fe ddechreuodd gymryd rhan yn y driniaeth rhithwir 3MDR.
"Mae'r rhaglen rhithwir wedi bod yn anodd iawn, iawn. Tua hanner ffordd trwy'r rhaglen roeddwn i'n meddwl 'Alla i ddim gwneud hyn mwyach'.
"Roedd y delweddau yn mynd â chi yn ôl yno - i'r lle nad ydych chi eisiau bod, rydych chi am anghofio amdano, ond yr unig siawns o geisio anghofio am beth sydd wedi digwydd yw trwy ddelio ag ef."
Un academydd sydd wedi bod yn arwain yr ymchwil yw'r Athro Jon Bisson o Adran Seiciatreg, Prifysgol Caerdydd.
"Rydyn ni'n helpu unigolion i oresgyn beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, drwy eu gorfodi i gerdded tuag at y lluniau sydd ar y sgrin o flaen y peiriant...
"Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i gleifion wynebu eu hofnau er mwyn gallu eu trin am y profiadau trawmatig maent wedi eu hwynebu, ac sy'n parhau i achosi pryder iddynt.
"Trwy ail-fyw'r profiadau niweidiol yma, mae risg y bydd unigolion yn cael ymateb negyddol, ond gwelodd mwyafrif y rhai a fu'n rhan o'r prawf hwn welliant yn eu symptomau ar ôl y driniaeth."
Y cam nesaf i'r Athro Bisson a'i dîm fydd ehangu i brawf ehangach, fydd yn cynnwys mwy na phersonél milwrol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017